Edwin, brenin Northumbria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Brenin teyrnasoedd [[Deifr]] a [[Brynaich]], a ddaeth yn ddiweddarach yn deyrnas [[Northumbria]] oedd '''Edwin''', hefyd '''Eadwine''' neu '''Æduini''' (tua [[586]] - [[12 Hydref]] [[632]]/[[633]]). Daeth yn Gristion, ac ystyrid ef yn sant Cristnogol wedi iddo gael ei ladd mewn brwydr.
 
Roedd Edwin yn fab i [[Aella, brenin DeiftDeifr|Ælle]], brenin [[Deifr]]. Wedi marwolaeth ei dad, daeth [[Æthelfrith]] yn frenin Northumbria, a bu Edwin mewn alltudiaeth. Mae traddodiad, er enghraifft gan [[Sieffre o Fynwy]], iddo gael nodded gan [[Cadfan ap Iago]], brenin [[Teyrnas Gwynedd]]. Mae [[Trioedd Ynys Prydain]] yn ei enwi fel "un o dri gormeswr ar [[Ynys Môn|Fôn]] a fagwyd ar yr ynys".
 
Lladdwyd Æthelfrith mewn brwydr gan [[Raedwald, brenin East Anglia]] tua [[616]], a daeth Edwin yn frenin Northumbria. Tua [[616]] neu [[626]], goresgynnodd deyrnas Frynthonig [[Elfed]], ac ymosododd ar [[Ynys Manaw]]. Erbyn tua [[627]], ef oedd y mwyaf grymus o frenhinoedd yr [[Eingl-Sacsoniaid]], a dywedir iddo feddiannu Ynys Môn am gyfnod. Ymddengys iddo orchfygu [[Cadwallon ap Cadfan]], brenin Gwynedd, a'i orfodi i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]].