Abaty Aberconwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
Roedd '''Abaty Aberconwy''' yn abaty [[Sistersaidd]] oedd yn wreiddiol ar safle sydd o fewn tref [[Conwy]] heddiw, yna'n ddiweddarach ym Maenan ger [[Llanrwst]]. Yn y [[13eg ganrif]] Abaty Aberconwy oedd yr abaty pwysicaf yng ngogledd Cymru.
 
==Yr abaty cyntaf==
[[Image:EglwysConwy.jpg|thumb|250px|left|Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol]]
 
Sefydlwyd abaty Sistersaidd yn Rhedynog Felen ger [[Caernarfon]] yn 1186 gan fintai o fynachod o [[Abaty Ystrad Fflur]]. Bedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, symudasant i Aberconwy, ac yn 1199 rhoddwyd tiroedd helaeth i'r abaty gan dywysog newydd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Llywelyn Fawr]]. Ystyrid Llywelyn yn sylfaenydd yr abaty, a chyda'i gefogaeth ef daeth i feddiannu mwy o diroedd nag unrhyw abaty arall yng Nghymru, dros 40,000 acer (160 km²). Bu farw Llywelyn yn yr abaty yn 1240 a chladdwyd ef yno. Claddwyd ei fab [[Dafydd ap Llywelyn]] yma hefyd yn 1246. Yr oedd mab arall Llywelyn, [[Gruffydd ap Llywelyn Fawr|Gruffydd ap Llywelyn]], wedi syrthio i'w farwolaeth wrth geisio dianc o [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]] yn 1244 ac wedi ei gladdu yno, ond yn 1248 trefnodd abad Aberconwy ac abad Ystrad Fflur i'w gorff gael ei ddychwelyd i Gymru a'i gladdu yn abaty Aberconwy gyda'i dad a'i frawd. Didoddefodd yr abaty ddifrod sylweddol gan filwyr [[Harri III o Loegr]] yn [[1245]] pan ymosododd y brenin hwnnw ar Wynedd.
 
Cymerodd abad Aberconwy ran bwysig yn y trafodaethau rhwng [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'r goron Seisnig yn ddiweddarach yn y ganrif, ac yn 1262 ef oedd unig gynrychiolydd Llywelyn yn y trafodaethau.
 
==Maenan==
Wedi lladd Llywelyn yn 1282, gorfododd [[Edward I o Loegr|Edward I]] y mynachod i symud i safle newydd ym Maenan, er mwyn iddo ef fedru adeiladu castell a thref yng Nghonwy. Yr oedd yr abaty newydd wedi ei gwblhau erbyn 1284, gyda Edward yn talu'r gost. Yn y [[15fed ganrif]] cofnodir fod [[abad]] Aberconwy, John[[Siôn ap Rhys]], wedi ffraeo ag abaty Ystrad Fflur ac wedi arwain rhai o'i fynachod a milwyr i ysbeilio Ystrad Fflur. Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r [[16eg ganrif]], [[Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy|Dafydd ab Owain]] oedd yr abad yno, cyn iddo gael ei apwyntio'n [[esgob Llanelwy]]. Cadwai lys agored a chanodd y bardd [[Tudur Aled]] iddo yn ei abad-dy ar fwy nag un achlysur. Yn [[1535]] amcangyfrifwyd fod gwerth eiddo'r abaty yn £162, ac fel y mynachlogydd eraill rhoddwyd diwedd ar abaty Aberconwy yn [[1537]].
 
Ychydig sy'n weddill o adeiladau'r fynachlog ym Maenan, ond cafodd eglwys yr abaty yn Aberconwy ei throi'n eglwys y plwyf i dref Conwy. Mae wedi ei hail-adeiladu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae rhai darnau o hen eglwys yr abaty yn parhau. Credir fod adeiladau eraill yr abaty i'r gogledd ac i'r dwyrain o'r eglwys.
Llinell 17 ⟶ 18:
*Harold Hughes a Herbert L. North, ''The Old Churches of Snowdonia'' (Bangor, 1924; argraffiad newydd, Capel Curig, 1984). Tud. 34-61
 
==Gweler hefyd==
 
*[[Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy]]
 
[[Categori:Tai Sistersiaidd Cymru|Aberconwy]]