An Dream Dearg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 13:
 
===New Decade, New Approach===
Bu oedi pellaeth pan, Wedi tair blynedd o anghydfod, cafodd grym yn Stormont ei adfer yn 2020, a daeth bargen rhwng y ddwy brif blaid, Sinn Féin a’r DUP. Fel rhan o’r cytundeb ‘New Decade, New Approach’, roedd cytundeb y byddai camau yn cael eu rhoi ar waith i ddyrchafu statws y Wyddeleg ac Sgoteg Ulster, ond ni wireddwyd gyda'r Gweinidog, [[Arlene Foster]], yn feiobeio [[Y Gofid Mawr]] am ddiffyg gweithredu. Esgus a wrthwynebwyd gan ymgyrchydd AN Dream Dearg, Conchúr Ó Muadaigh a nododd, "Rydym yn medru cerdded a chnoi gwm" yr un pryd.
 
Fel rhan o’r cytundeb ‘New Decade, New Approach’, yn Ionawr 2020<ref>{{cite web |title=Stormont deal: Arlene Foster and [[Michelle O'Neill]] new top NI ministers |url=https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-51077397 |website=BBC News |publisher=BBC News |accessdate=11 January 2020 |archive-date=13 January 2020 |archive-url=https://web.archive.org/web/20200113064911/https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-51077397 |url-status=live }}</ref> roedd cydsyniad na fyddai yna Ddeddf Iaith Wyddeleg, ond cafodd llu o ymrwymiadau yn ymwneud â’r iaith eu hamlinellu. Cytunodd Sinn Féin a’r DUP y byddai Deddf Gogledd Iwerddon 1998 yn cael ei haddasu, ac y byddai llu o bolisïau yn cael eu cyflwyno. Roedd addewidion i roi statws swyddogol i’r Wyddeleg a Sgots Ulster, ac i sefydlu rôl [[Comisiynydd Iaith Wyddeleg]] (tebyg i [[Comisiynydd y Gymraeg|Gomisiynydd y Gymraeg]] yng Nghymru). Hefyd, ymrwymodd y pleidiau i gyflwyno safonau iaith (tebyg i’r safonau yng Nghymru) ac i sefydlu uned gyfieithu oddi mewn i Lywodraeth Gogledd Iwerddon.<ref name=Golwg1 />