William Owen Pughe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Bywgraffiad: Cywirwyd y camdeipio
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
m. ar y 4ydd yn ol y Bywgraffiadur. Gall rhywun wiro pls? Carr?
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
[[Delwedd:Portrait of W. Owen Pughe D.C.L., F.A.S (4671832).jpg|bawd|W. Owen Pughe D.C.L., F.A.S (4671832)]]
[[Gramadeg]]ydd, [[geiriadur]]wr a [[golygydd]] [[Cymry|Cymreig]] oedd y Dr '''William Owen Pughe''' ([[7 Awst]] [[1759]] – [[34 Mehefin]] [[1835]]). Ei [[enw barddol]] oedd 'Idrison' (defnyddiai 'Gwilym o Feirion' weithiau yn ogystal). Roedd yn aelod gweithgar o gymdeithasau llenyddol Llundain. Fel gramadegydd a geiriadurwr datblygodd ddamcaniaethau ieithyddol rhyfedd ac orgraff newydd i'r iaith [[Gymraeg]].<ref>{{Cite web|title=PUGHE, WILLIAM OWEN (1759 - 1835), geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd, a bardd {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-OWE-1759|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-03-24}}</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ganed Owen Pughe yn Nhy'n-y-bryn ym mhlwyf [[Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn)|Llanfihangel y Pennant]], [[Sir Feirionnydd]]. Symudodd ei deulu i fyw i dyddyn yn [[Ardudwy]] pan fu tua saith oed. Symudodd y dyn ifanc i fyw yn [[Llundain]] yn [[1776]] lle daeth i adnabod [[Owain Myfyr]]. Ymunodd â Chymdeithas y [[Gwyneddigion]] yn [[1782]] a daeth yn ddylanwad mawr ym mywyd llenyddol [[Cymry Llundain]]. Yn ystod y blynyddoedd hyn ennillai ei fywoliaeth yn gyntaf fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr ac yna fel ysgolfeistr a thiwtor preifat i blant cyfoethogion yn Llundain. Yn [[1790]] priododd Sarah Elizabeth Harper a chafodd fab ([[Aneurin Owen]]) a dwy ferch ganddi. Ei enw bedydd oedd William Owen, ond mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol Pughe ar ôl etifeddu tir ger [[Nantglyn]] yn [[Sir Ddinbych]] yn [[1806]] gan berthynas pell o'r enw Rice Pughe. Yn dilyn hyn yr oedd ganddo incwm preifat a'i galluogodd i roddi ei holl amser i weithgarwch llenyddol ac ysgolheigaidd. Fodd bynnag parhaodd i fyw yn Llundain hyd 1825 (er i'w wraig farw yn 1815) pryd y dychwelodd i Gymru. Aeth ei iechyd yn fregus a bu farw mewn bwthyn yn perthyn i gyfaill, ger [[Llyn Mwyngil]], Meirionnydd, y 3ydd4ydd o Fehefin, 1835.
 
Roedd yn troi yn yr un cylch â rhai o ffigyrau llenyddol mwyaf ei oes, yn cynnwys Owain Myfyr, [[Iolo Morganwg]] a [[Jac Glan-y-gors]]. Roedd yn ddyn caredig ond hygoelus. Daeth dan ddylanwad y "broffwydoles" o [[Dyfnaint|Ddyfnaint]] [[Joanna Southcott]] (c.1750-1814) yn [[1803]] a bu'n fath o ffactotwm iddi hyd ei marwolaeth yn [[1814]]. Cafodd ei ethol yn aelod o'r Gymdeithas Hynafiaethol a rhoddodd [[Prifysgol Rhydychen]] y teitl o D.C.L. iddo yn [[1824]].