Senana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Y Dywysoges '''Senana''' (neu '''Senena''') '''ferch Caradog ap Thomas''' (fl. 1210 - 1260) oedd gwraig Gruffudd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd. Trwy ei...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Y Dywysoges '''Senana''' (neu '''Senena''') '''ferch Caradog ap Thomas''' (fl. [[1210]] - [[1260]]) oedd gwraig [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr|Gruffudd ap Llywelyn]], Tywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Trwy ei thad [[Caradog ap Thomas|Caradog]] roedd hi'n orwyres i [[Owain Gwynedd]]. Roedd hi'n fam i [[Llywelyn ap Gruffudd|Lywelyn Ein Llyw Olaf]] a'i frawd [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]]. Roedd hi hefyd yn fam i [[Rhodri ap Gruffudd|Rodri]] ac [[Owain ap Gruffudd|Owain]] ynghyd â dwy ferch, [[Gwladus ferch Senana|Gwladus]] a [[Margaret ferch Senana|Margaret]].
 
Mae'r ychydig sy'n hysbys am Senana yn deillio o'r cyfeiriadau amdani yng nghofnodion y cyfnod, a hynny am ei bod yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Gwynedd ac yn y berthynas rhwng Gwynedd a choron [[Lloegr]]. Yn Awst [[1241]] aeth o Wynedd i gyfarfod â [[Harri III o Loegr]] yn [[Amwythig]] i geisio amodau am ryddhau ei gŵr o garchar ei frawd [[Dafydd ap Llywelyn]], Tywysog Gwynedd. Pan garcharwyd ei gŵr Gruffudd gan Harri yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]] âi Senana yno i ymweld ag ef a cheisio ei gynorthwyo. Er mwyn gwneud hynny llwyddodd i gael caniatad y brenin. Mae ei diwedd yn anhysbys.
Llinell 6:
*J. Beverley Smith, ''Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru'' (Caerdydd, 1986)
 
[[Categori:Tywysogesau Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Cymry enwog]]