Gruffudd ap Llywelyn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

tywysog gogledd Cymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Gruffudd ap Llywelyn Fawr''' neu '''Gruffudd ap Llywelyn ab Iorwerth''' (m. 1 Mawrth, 1244) oedd mab Llywelyn Fawr a thad Llywelyn Ein Llyw Olaf a [[Dafydd ap Gruf...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:24, 15 Chwefror 2007

Gruffudd ap Llywelyn Fawr neu Gruffudd ap Llywelyn ab Iorwerth (m. 1 Mawrth, 1244) oedd mab Llywelyn Fawr a thad Llywelyn Ein Llyw Olaf a Dafydd ap Gruffudd.

Cefndir

Er gwaethaf ei lle pwysig yn hanes Cymru fel tad Llywelyn II a'i frawd, cymharol ychydig o ffeithiau sydd gennym amdano. Roedd yn un o ddau fab Llywelyn Fawr. Credir ei fod yn fab gordderch i Lywelyn a Tangwystl Goch. Ei frawd oedd Dafydd ab Llywelyn (m. 1246), Tywysog Gwynedd am gyfnod byr a thrafferthus ar ôl marwolaeth ei dad. Teimlai Gruffudd fod ganddo hawl i orsedd Gwynedd ei hun ac roedd ganddo ei bleidwyr. Priododd Senana, ferch Caradog ap Thomas, un o ddisgynyddion Owain Gwynedd.

Gwleidyddiaeth

Ni fu ei berthynas â'i dad Llywelyn yn hawdd, gan fod y tywysog wedi dewis Dafydd yn edling (etifedd) iddo yn gynnar yn ei deyrnasiad gan adael Gruffudd heb obaith yn y cyfeiriad hwnnw. Roedd hynny'n chwerw i Ruffudd am ei fod wedi treulio pedair blynedd yn wystlon dros ei dad yn Llundain er mwyn cadw'r heddwch rhwng Llywelyn a John o Loegr. Ceisio osgoi yr ymrannu a checru a fu'n bla ar deyrnasoedd Cymru o'r cychwyn cyntaf oherwydd y gyfraith ynglŷn ag etifeddiaeth oedd Llywelyn. Mewn canlyniad bu rhaid i Lywelyn gadw ei fab dan glo ar adegau. Pan fu farw'r tywysog yn 1240 roedd Gruffudd a'i fab hynaf Owain yn 'garcharorion' yng nghastell Cricieth. Bu rhaid iddynt aros yno tan 1241 pan gytunodd Dafydd ap Llywelyn i'w trosglwyddo nhw i goron Lloegr yn ôl amodau Cytundeb Gwern Eigron; roedd brenin Lloegr yn gobeithio eu defnyddio i gadw Gwynedd yn wan ac ymranedig. Roedd hynny hefyd yn ffordd o gadw Dafydd dan reolaeth oherwydd roedd yn gwybod buasai Harri yn anfon Gruffudd yn ôl i Wynedd gyda chefnogaeth byddin Seisnig i hawlio'r deyrnas pe bai anghydfod pellach rhyngddo fo a'r brenin. Ond roedd sefyllfa Gruffudd yn amhosibl hefyd. Yr un fath ag y bu rhaid i Ddafydd ei roi yng ngofal Harri yn erbyn ei ewyllys roedd Gruffudd yn wystlon i ffawd a choron Lloegr yn Llundain. Doedd y Saeson ddim yn ymddiried ynddo a chafodd ei rhoi yn Nhŵr Llundain. Teithiodd ei wraig Senana i'w gweld yno a cheisiai ymeiriol ar ei ran, ond yn ddifudd.

Ei dranc

O'r diwedd ceisiodd Gruffudd ddianc o'r tŵr. Roedd yn cael ei ddal mewn stafell gymharol foethus ar un o'r lloriau uchaf. Dywedir iddo syrthio i'w farwolaeth wrth geisio ddringo i lawr a dianc, a hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1244.

Cofnododd yr hanesydd Mathew Paris y digwyddiad:

'Tra'r oedd dis ffawd yn dylanwadu ar ddigwyddiadau'r byd fel hyn, yr oedd Gruffudd, mab hynaf Llywelyn, Tywysog Gwynedd, o hyd yn gaeth yng ngharchar yn Nhŵr Llundain... Un noswaith, ar ôl iddo dwyllo'i geidwaid, a phlethu cortyn o gynfasau'i wely a thapestrïau a llieiniau bwrdd, fe'i gollyngodd ei hun, gyda'r rhaff hon, yn syth i lawr o ben y Tŵr. Ac yntau wedi dod i lawr beth ffordd, fe dorrodd y cortyn dan bwysau ei gorff, oherwydd yr oedd ef yn ddyn corfforol a helaeth ei faint, a syrthiodd yntau o uchder mawr; a thrwy hyn fe dorrodd ei wddf a marw.' (cyfieithiad o'r Lladin, yn David Fraser, Yr Amddiffynwyr (Caerdydd, 1967), t. 118).

Plant

Llyfryddiaeth

  • A.D. Carr, Llywelyn ap Gruffudd (Caerdydd, 1982)
  • J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)