Gruffudd ap Llywelyn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 5:
 
==Gwleidyddiaeth==
Ni fu ei berthynas â'i dad Llywelyn yn hawdd, gan fod y tywysog wedi dewis Dafydd yn [[edling]] (etifedd) iddo yn gynnar yn ei deyrnasiad gan adael Gruffudd heb obaith yn y cyfeiriad hwnnw. Roedd hynny'n chwerw i Ruffudd am ei fod wedi treulio pedair blynedd yn wystlon dros ei dad yn Llundain er mwyn cadw'r heddwch rhwng Llywelyn a [[John o Loegr]]. Ceisio osgoi yr ymrannu a checru a fu'n bla ar deyrnasoedd [[Cymru]] o'r cychwyn cyntaf oherwydd y [[Cyfraith Hywel Dda|gyfraith]] ynglŷn ag etifeddiaeth oedd Llywelyn. Mewn canlyniad bu rhaid i Lywelyn gadw ei fab dan glo ar adegau. Pan fu farw'r tywysog yn [[1240]] roedd Gruffudd a'i fab hynaf [[Owain ap Gruffudd|Owain]] yn 'garcharorion' yng [[Castell Cricieth|nghastell Cricieth]]. Bu rhaid iddynt aros yno tan [[1241]] pan gytunodd Dafydd ap Llywelyn i'w trosglwyddo nhw i goron Lloegr yn ôl amodau [[Cytundeb Gwern Eigron]]; roedd brenin Lloegr yn gobeithio eu defnyddio i gadw Gwynedd yn wan ac ymranedig. Roedd hynny hefyd yn ffordd o gadw Dafydd dan reolaeth oherwydd roedd yn gwybod buasai Harri yn anfon Gruffudd yn ôl i Wynedd gyda chefnogaeth byddin Seisnig i hawlio'r deyrnas pe bai anghydfod pellach rhyngddo fo a'r brenin. Ond roedd sefyllfa Gruffudd yn amhosibl hefyd. Yr un fath ag y bu rhaid i Ddafydd ei roi yng ngofal Harri yn erbyn ei ewyllys roedd Gruffudd yn wystlon i ffawd a choron Lloegr yn Llundain. Doedd y Saeson ddim yn ymddiried ynddo a chafodd ei rhoi yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]]. Teithiodd ei wraig Senana i'w gweld yno a cheisiai ymeiriol ar ei ran, ond yn ddifuddofer.
 
==Ei dranc==