Nerf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210222)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Bwndel o [[acson]]au, sef ffibrau hirion, meinion sy'n cysylltu â [[niwron]]au, yw '''nerf''' neu weithiau '''gieuyn''' neu '''giewyn''' (ffurf luosog: gïau). Pwrpas y nerf yw i drosglwyddo [[ysgogiad nerfol|ysgogiadau nerfol]] [[electrocemegol]] ar hyd yr acsonau i organau amgantol.
 
Mae nerfau'r corff yn ffurfio'r [[system nerfol amgantol]], sy'n cysylltu â'r [[system nerfol ganolog]], sef yr [[ymennydd]] a [[llinyn yr asgwrn cefn]], gan ffurfio'r holl [[system nerfol]]. Yn y system nerfol ganolog, [[llwybr nerfol|llwybrau nerfol]] yw'r strwythurau sy'n cyfateb i nerfau.<ref name=Purves>{{cite book |author=Purves D, Augustine GJ, Fitzppatrick D ''et al.'' |title=Neuroscience |url=https://archive.org/details/neuroscienceissu00purv |edition=4th |publisher=Sinauer Associates |pages=[https://archive.org/details/neuroscienceissu00purv/page/n36 11]–20 |year=2008 |isbn=978-0-87893-697-7 }}</ref><ref name=Marieb>{{cite book |author=Marieb EN, Hoehn K |title=Human Anatomy & Physiology |edition=7th |publisher=Pearson |pages=388–602 |year=2007 |isbn=0-8053-5909-5 }}</ref>
 
Mae gan bob nerf strwythur gordaidd sy'n cynnwys nifer o acsonau, neu ffibrau nerfol. Amgeir pob acson gan haen o [[meinwe gyswllt|feinwe gyswllt]] o'r enw'r [[endonewriwm]]. Clymir yr acsonau'n sypynnau o'r enw [[ffasgell nerfol|ffasgellau nerfol]], ac amlapir pob ffasgell mewn haen o feinwe gyswllt o'r enw'r [[perinewriwm]]. Amgeir yr holl nerf gan haen o feinwe gyswllt o'r enw'r [[epinewriwm]].