Luned: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 9:
== Ei henw ==
Anghytunir ar darddiad ei henw. Ceir sawl fersiwn o ramant ''Iarlles y Ffynnon'' mewn ieithoedd eraill, yn enwedig y Ffrangeg, ac mae arbenigwyr yn anghytuno ynglŷn â tharddiad y chwedl honno yn ei ffurf bresennol a hefyd yr enw Luned/Eluned ei hun. 'Lunet[t]e' a geir yn y rhamantau Ffrangeg ac mae'n bosibl bod Luned yn Gymreigiad o'r enw hwnnw, ond mae'n bosibl hefyd ei fod yn dalfyriad o'r enw Cymraeg 'Eluned', ac yn sicr felly os derbynnir fod y rhamant ei hun yn gyfansoddiad Cymraeg gwreiddiol yn hytrach nac addasiaid o'r Ffrangeg. Cynigiodd [[Ifor Williams]] fod yr enw Eluned yn cynnwys yr elfen ''El-'', sy'n gyfystyr â 'llawer' (cf. Elfyw), a bod yr ail ran yn cynnwys yr elfen ''(i)un'' a geir mewn geiriau fel 'dym''un''iad' ac 'eidd''un''ed'; pan gafodd ei fenthyg i'r Ffrangeg collwyd yr ''E'' a chafwyd y
== Barddoniaeth ==
|