Dinas Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
llun neu ddau
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 21:
==Y tŵr==
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan [[Llywelyn Fawr]] yn gynnar yn y [[13g]] neu, yn fwy tebygol, gan [[Owain Gwynedd]] tua diwedd y [[12g]]. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel [[Castell Deudraeth]]. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.
 
<gallery>
Llyn Dinas from inside Dinas Emrys; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 08.jpg|Yr olygfa o'r tŵr: Llyn Dinas
Castell Dinas Emrys tower; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 44.jpg
Y tu fewn i Gastell Dinas Emrys - inside Dinas Emrys; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 33.jpg
Y tu fewn i Gastell Dinas Emrys - inside Dinas Emrys; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 73.jpg
Y tu fewn i Gastell Dinas Emrys - inside Dinas Emrys; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 26.jpg
Remains of the tower, inside Dinas Emrys; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 69.jpg
</gallery>
 
==Y dreigiau==
 
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|chwith|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]]
Mae gwaith yr [[archaeoleg]]wyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] a'r [[Oesoedd Canol]] cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy [[Draig|ddraig]], [[Y Ddraig Goch|un yn goch]] a'r llall yn wyn, yn chwedl [[Cyfranc Lludd a Llefelys|Lludd a Llefelys]]. Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn adrodd sut y bu i [[Myrddin|Fyrddin]] eu dangos i'r brenin [[Gwrtheyrn]] gan esbonio eu bod yn cynrychioli y [[Brythoniaid]] a'r [[Saeson]] yn eu gornest am [[sofraniaeth]] [[Ynys Prydain]]. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith [[Nennius]], yr ''[[Historia Brittonum]]'' (9g). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
 
<gallery>
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|chwith|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]]
Dinas Emrys, Parc Cenedlaethol Eryri, Gwynedd, Cymru (Wales) 22.jpg
Castell Dinas Emrys, Parc Cenedlaethol Eryri, Gwynedd, Cymru (Wales) 09.jpg
Y tu fewn i Gastell Dinas Emrys - inside Dinas Emrys; Snowdonia National Park, Gwynedd, Wales. 105.jpg|Y fynedfa i fewn i'r castell
</gallery>
 
==Gweler hefyd ==