Cymry Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8.1
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd nifer o Gymry deallus yn y ddinas yn dechrau poeni am gyflwr Cymru ac yn enwedig ei diffyg sefydliadau cenedlaethol. Cymerodd Cymdeithas y Cymmrodorion ran bwysig yn yr ymgyrch i sefydlu [[Prifysgol Cymru]], [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] a'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]].
 
Rhwng y ddau ryfel byd daeth Llundain yn ganolfan bur bwysig i lenorion Cymru unwaith eto. Mae'r rhai a fu'n gweithio yno neu a ymsefydlodd yno yn cynwyscynnwys [[Caradog Prichard]] (awdur ''[[Un Nos Ola Leuad]]''), [[Dylan Thomas]], [[Aneirin Talfan Davies]] a [[Llewelyn Wyn Griffith]]. Roedd siop lyfrau y Brodyr Griffiths - "Siop Griffs" - ger Charing Cross yn ganolfan bwysig.
 
Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi [[Caerdydd]] yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol.