Maentwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Maentwrog''' yn bentref yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], lle mae'r ffordd [[A496]] o [[Harlech]] i [[Blaenau Ffestiniog|Flaenau Ffestiniog]] yn croesi'r [[A487]] o [[Porthmadog|Borthmadog]]. Saif ar [[Afon Dwyryd]] ac mae'r [[Moelwyn Bach]] i'r gogledd a [[Llyn Trawsfynydd]] i'r de. Maentwrog oedd y lle uchaf y gellid ei gyrraedd ar hyd Afon Dwyryd mewn cychod o faint sylweddol.
 
Daw'r enw o chwedl am sant [[Twrog]] yn taflu carreg anferth o ben y [[Moelwynion]] i ddinistrio allor baganaidd. Mae'r garreg i'w gweld geryng ngongl Eglwys Sant Twrog. Mae cyfeiriad at Maentwrog yn y bedwaredd gainc o'r [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'' lle'r adroddir fod [[Pryderi]] wedi ei gladdu yma ar ôl ei ladd yn ymladd â [[Gwydion]] gerllaw. Roedd ffordd Rufeinig [[Sarn Helen]] yn mynd heibio'r pentref, gan groesi'r afon yn Felinrhyd.
 
Mae tystiolaeth am goed yn cael ei allforio o 1739, ond daeth Maentwrog yn bwysig gyda thŵf y diwydiant llechi o'r 1760au ymlaen. Hyd nes adeiladwyd [[Rheilffordd Ffestiniog]] yr oedd y llechi'n cael eu cario yma a'u llwytho i gychod oedd yn mynd a hwy i lawr yr afon i'w llwytho i longau. Tyfodd Maentwrog yn gyflym yn y [[19eg ganrif]]. Gerllaw'r pentref mae Plas Tan y Bwlch, unwaith yn gartref y teulu Oakley a fu'n flaenllaw yn natblygiad y diwydiant llechi yn ardal [[Blaenau Ffestiniog]]. Teulu Oakley oedd yn gyfrofol am ddatblugu a chynllunio'r penref. Mae'r plas yn awr yn Ganolfan Astudio yn perthyn i [[Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri]]. Mae gorsaf Tan-y-Bwlch ar [[Reilffordd Ffestiniog]] gerllaw hefyd. Mae dwy dafarn yma, ''The Grapes'' o'r [[17eg ganrif]] yn y pentref a'r ''Oakley Arms'' ger Plas Tan y Bwlch.