Castell y Bere: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
==Lleoliad==
[[Delwedd:Y Bere.JPG|300px|bawd|'''Castell y Bere''' gyda bryniau Cadair Idris yn y cefndir]]
Lleolir y castell ym [[plwyf|mhlwyf]] hanesyddol [[Llanfihangel-y-pennant]], yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Tal-y-bont (cwmwd)|Tal-y-bontYstumanner]], [[cantref]] [[Meirionnydd (cantref)|Meirionnydd]], ym mhen uchaf [[Dyffryn Dysynni]]. Mae'n sefyll ar grug neu fryncyn isel ar lan ddeheuol [[Afon Cader]], ffrwd sy'n [[aber]]u yn [[Afon Dysynni]] hanner milltir i'r gorllewin o'r castell. Mae hen lwybr dros flwch Nant-yr-Eira ac un arall ar lan Afon Dysynni yn ei gysylltu ag [[Abergynolwyn]] i'r dwyrain. Yn y gogledd mae bryniau mawr cadwyn [[Cadair Idris]] yn ei amddiffyn. Yr unig fynediad rhwydd iddo yw i fyny Dyffryn Dysynni o gyfeiriad [[Llanegryn]] a [[Tywyn|Thywyn]] ar arfordir. Roedd gwylfa ar ben [[Craig yr Aderyn]] i'w gwarchod o'r cyfeiriad hwnnw.
 
==Hanes==
Codwyd y castell gan [[Llywelyn Fawr]] yn [[1221]] pan feddianodd gantrefi Meirionnydd ac [[Ardudwy]] yn sgîl anghydfod â'i fab [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr|Gruffudd]]. Fe'i codwyd i gadw golwg ar y wlad rhwng [[Afon Mawddach]] ac [[Afon Dyfi]], y fynedfa naturiol i ganol teyrnas Gwynedd o gyfeiriad y De. Ychydig a wyddom am ei hanes tan [[1283]] pan y'i cipiwyd gan luoedd y brenin [[Edward I o Loegr]]; y castell olaf o bwys i syrthio yn [[Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru]]. Ceir dogfen dyddiedig 12 Rhagfyr, [[1263]], yn Ystumanner sy'n cofnodi cytyndeb rhwng [[Llywelyn ap Gruffudd]] a [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]], ac mae'n bosibl ei fod wedi'i llunio yng Nghastell y Bere. Atgyweiriwyd y castell ac ychwanegwyd llenfur arall gan y Saeson. Ond yn [[1294]] neu [[1295]] syrthiodd i'r Cymry dan [[Madog ap Llywelyn]] a chafodd ei losgi'n ulw.
 
==Adeiladwaith==