Ynysydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
dechrau
Llinell 1:
[[Delwedd:CintaAislanteElectricaRojaUnion.jpg|bawd|200px|Ynysydd]]
'''Ynysydd''' yw defnydd sy'n atal ynni trydanol neu thermol rhag teithiodeithio trwyddodrwyddo, ac mae'n wrthwyneb i [[dargludydd|ddargludydd]]. Mae'r deunyddiau hyn yn cynnwys y mwyafrif o'r [[anfetel|anfetelau]] [[elfen gemegol|elfennol]] ac anfetelau eraill, fel [[plastig|plastigion]].
 
==Ynysyddion trydanol==
Er mwyn i drydan teithiodeithio trwydrwy sylwedd, rhaid bod gwefrau ynddo sy'n medru symud a chario'r [[cerrynt]]. Mae'r llif gwefr yn trosglwyddo ynni trydanol o un man i fan arall yn y broses. Gellid cael [[electron|electronau]] neu [[ïon|ïonau]] i drosglwyddo gwefr, felly rhaid i'r electronau mewn ynysydd fod yn lleoledig, ac mae'r bondiau cofalent mewn sylweddau anfetelig yn addas iawn ar gyfer eu dal mewn lleoliad pendant.
 
==Ynysyddion thermol==
Mae ynysyddion thermol yn gweithio trwy atal un neu fwyragor o'r dulliau o drosglwyddo ynni thermol (gwres): [[dargludiad]], [[darfudiad]] a [[phelydriad]]. Mae nifer wedi eu seilio ar briodweddau ynysyddol nwyon fel aer, ac maent yn dal swigod o aer yn eu hadeileddau e.e. [[asbestos]], [[plu]] neu [[gwlân|wlân]]. Er mwyn atal pelydriad mae angen dulliau eraill, a defnyddir wynebau sgleiniog i adlewyrchu'r tonnau [[isgoch]] yn ôl, rhag iddynt ddianc a throsglwyddo eu hynni thermol.
 
===Fflasg wactod===