Moderniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Hans Hofmann's painting 'The Gate', 1959–60.jpg|bawd|[[Hans Hofmann]], ''The Gate'', 1959–60, casgliad: Amgueddfa Solomon R. Guggenheim. Roedd Hofman yn adnabyddusfel athro ac fel arlunydd; roedd hefyd yn ddamcaniaethwr modern, y gyntaf yn yr [[Almaen]] lle'i maged ac yna yn yr [[Unol Daleithiau America|UDA]]. Cyflwynodd foderniaeth yn y [[1930au]] i genhedlaeth newydd o arlunwyr Americanaidd.<ref>{{Cite web |url=http://www.hanshofmann.org/biography |title=Hans Hofmann biography. Adalwyd 30 Ionawr 2009 |access-date=2016-08-27 |archive-date=2013-01-29 |archive-url=https://web.archive.org/web/20130129075738/http://www.hanshofmann.org/biography |url-status=dead }}</ref>]]
 
Mudiad ddamcaniaethol ydy '''moderniaeth''', sydd a'i wreiddiau'n ddwfn yn y byd gorllewinol: mewn cyfnod o newidiadau enfawr yn niwylliant a thawsnewidiad cymdeithas ar ddiwedd y [[19g]] a dechrau'r [[20c20g]]. Mae'n fuduad sy'n cwmpasu'r celfyddydau, cerdd a diwylliant, yn ogystal â llenyddiaeth. Ymhlith y digwyddiadau pwysicaf sy'n gefndir i gychwyn moderniaeth mae [[diwydiant|diwydiannau]] enfawr ac ailwampio cymdeithas (Fictorianaidd yng ngwledydd Prydain) yn sylweddol e.e. datblygiadau sydyn dinasoedd drwy Ewrop, fel had unos, yn cael ei ddilyn gan y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a'i erchyllterau'n cael eu hadrodd ym mhapurau'r cyfnod. Er fod gwreiddiau moderniaeth yn ddwfn yn Ewrop, yn achos llenyddiaeth, chwaraewyd rhan bwysig hefyd gan nifer o awduron [[Eingl-Americanaidd]].
 
Yn ei hanfod, dull celfyddydol o ymateb i fodernrwydd ydyw Moderniaeth. Yn hynny o beth gwahaniaethir rhwng modernrwydd, sef y cyflwr o fod yn fodern, neu fywyd modern yn ei wahanol agweddau, a Moderniaeth, sef yr ymateb celfyddydol i’r cyflwr hwn. Fel y dywed [[John Rowlands]], ‘Nid yw bod yn gyfoes yr un peth â bod yn fodern... Nid ei fwrw’i hun yn egnïol i ganol llif cynhyrfus bywyd cyfoes a wna’r modernydd: buasai’r gwrthwyneb yn debycach o fod yn wir. Nid bod yn fodernistig yw bod yn fodern.’ Wedi dweud hyn, roedd elfennau o fewn Moderniaeth a oedd yn hynod awyddus i fabwysiadu dulliau technolegol newydd a ddaeth i fod ddechrau’r 20g, ac i bortreadu’r dechnoleg honno yn ogystal â’i hefelychu, boed beiriannau neu foduron neu sinema. Dau fudiad o’r fath a gysylltir yn agos â Moderniaeth yn Ewrop yw Futurismo, dan arweiniad [[F. T. Marinetti]] ac eraill, yn yr Eidal, a Vorticism a goleddid gan awduron fel [[Ezra Pound]] a [[Wyndham Lewis]].<ref>[https://wici.porth.ac.uk/index.php/Moderniaeth Esboniadur, y Porth, y Coleg Cymraeg. Nodir fod y gwaith hwn ar CC-BY-SA. Mae llawer o'r testun yn yr erthygl hon wedi'i drawsgrifio yma; awdur erthygl yr Esboniadur: [[Llŷr Gwyn Lewis]]. Adalwyd 27 Awst 2016.</ref> Dyma'r cyfnod pan fo [[yr Oes Oleuedig]] a [[crefydd|chrefydd]] yn cael eu gwrthod gan fodernwyr blaenllaw.<ref>Pericles Lewis, ''Modernism, Nationalism, and the Novel'' (Cambridge University Press, 2000). tt 38–39.</ref><ref>''"[[James Joyce|[James] Joyce]]'s ''[[Ulysses (novel)|Ulysses]]'' is a comedy not divine, ending, like Dante's, in the vision of a God whose will is our peace, but human all-too-human...."'' Peter Faulkner, ''Modernism'' (Taylor & Francis, 1990). t 60.</ref>