Traeth Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Cywiro gwall ynganiad dwbwl using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
 
Mae '''Traeth Coch''' yn draeth tywodlyd, llydan ar ochr ddwyreiniol [[Ynys Môn]]. Mae'n gorwedd rhwng [[Trwyn Dwlban]] ger pentref [[Benllech]] i'r gorllewin a [[Llaniestyn]] i'r dwyrain. Caiff ei adnabod fel ''Red Wharf Bay'' yn Saesneg. Enwir Traeth Coch ar ôl brwydr yn 1170 rhwng y Cymry a'r Llychlynwyr a adawodd y traeth yn orlawn mewn gwaed.
 
Llifa [[afon Nodwydd]] i'r traeth, sy'n ffurfio [[bae]] agored tua dwy filltir a hanner o led, ger pentref [[Pentraeth]]; mae enw'r pentref hwnnw yn awgrymu fod y traeth yn ymestyn ymhellach i'r tir yn yr oesoedd a fu.
 
Bu Traeth Coch yn ddrwg-enwog am ei smyglwyr yn y gorffennol. Fe'i cysylltir hefyd â [[Gwrachod Llanddona]]; dywedir yr ymsefydlodd y gwrachod a'u gwŷr yn yr ardal ar ôl i'w llong gael ei dryllio ar y Traeth Coch.
 
Mae'r môr yn Nhraeth coch yn addas i nofio ynddo gan fod y dŵr digon bas. Mae croeso i chi fynd a eich cwn i Draeth coch, mae o'r lle perffaith i fynd a'i eich ci am dro.
 
Ar un adeg roedd [[rheilffordd]] ar hyd ymyl orllewinol y traeth yn cysylltu Benllech a [[Pentre Berw]], a phrif linell [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru|rheilffordd y Gogledd]].