Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Traeth Coch"

Ychwanegwyd 395 beit ,  4 mis yn ôl
addio links
(grammar changes)
(addio links)
Mae '''Traeth Coch''' yn draeth tywodlyd, llydan ar ochr ddwyreiniol [[Ynys Môn]]. Mae'n gorwedd rhwng [[Trwyn Dwlban]] ger pentref [[Benllech]] i'r gorllewin a [[Llaniestyn]] i'r dwyrain. Caiff ei adnabod fel ''[[:en:Red_Wharf_Bay|Red Wharf Bay]]'' yn Saesneg. Enwir Traeth Coch ar ôl brwydr yn 1170 rhwng y [[Cymru]] a'r [[Llychlynwyr]] a adawodd y traeth yn orlawn mewn gwaed.
 
Llifa [[afon Nodwydd]] i'r traeth, sy'n ffurfio [[bae]] agored tua dwy filltir a hanner o led, ger pentref [[Pentraeth]]; mae enw'r pentref hwnnw yn awgrymu fod y traeth yn ymestyn ymhellach i'r tir yn yr oesoedd a fu.
 
Mae pentref Traeth Coch ar lan orllewinol y bae. Cysylltir y pentref â Benllech a Phentraeth trwy [[Llwybr Arfordirol Ynys Môn|Lwybr Arfordirol Ynys Môn]]. Mae gan Draeth Coch dri bwyty - [https://www.thetavernonthebay.co.uk/ The Tavern on the Bay], [http://www.shipinnredwharfbay.co.uk/ The Ship Inn], a [https://www.theboathouseanglesey.com/ The Boathouse] - i gyd â golygfeydd o'r bae.
 
Bu Traeth Coch yn ddrwg-enwog am ei smyglwyr yn y gorffennol. Fe'i cysylltir hefyd â [[Gwrachod Llanddona]]; dywedir yr ymsefydlodd y gwrachod a'u gwŷr yn yr ardal ar ôl i'w llong gael ei dryllio ar y Traeth Coch.
Defnyddiwr anhysbys