August Bebel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017 Dolenni gwahaniaethu
 
gwybodlen, bywyd cynnar
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy |image=August Bebel c1900.jpg |caption=August Bebel (tua 1900). }}
[[Gwleidydd]] ac awdur [[sosialaeth|sosialaidd]] o [[Almaenwr]] oedd '''August Bebel''' ([[22 Chwefror]] [[1840]] – [[13 Awst]] [[1913]]).
 
Ganed ef yn Deutz ar lan [[Afon Rhein]], ger [[Cwlen]], yn [[Teyrnas Prwsia|Nheyrnas Prwsia]]. Turnio oedd ei grefft. Ymunodd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861 a phenodwyd yn gadeirydd ym 1865. Dylanwadwyd arno gan syniadau [[Wilhelm Liebknecht]], ac ym 1869 efe oedd un o sefydlwyr y Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (yn ddiweddarach y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol). Gwasnaethodd yn y [[Reichstag]] ym 1867, 1871–81, a 1883–1913. Fe'i carcharwyd am bum mlynedd i gyd, gan gynnwys am [[enllibio]]'r Canghellor [[Bismarck]]. Ysgrifennodd sawl traethawd a gwaith propaganda, gan gynnwys ''Die Frau und der Sozialismus'' (1879).
 
== Bywyd cynnar ==
Ganed August Bebel ar 22 Chwefror 1840 yn Deutz—tref sydd bellach yn rhan o ganol dinas Cwlen—ar lan [[Afon Rhein]], yn Nhalaith y Rheindir, Prwsia. Swyddog digomisiwn ym Myddin Frenhinol Prwsia oedd ei dad. Cafodd August ei fagu mewn tlodi yn [[Wetzlar]]—a oedd yn [[allglofan]] i Dalaith y Rheindir—ac yno dysgodd grefft y turniwr. Teithiodd ar draws de'r Almaen ac [[Awstria]] yn cynnig ei waith, ac yng ngwanwyn 1860 ymsefydlodd yn [[Leipzig]], [[Teyrnas Sachsen]].<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/August-Bebel |teitl=August Bebel |dyddiadcyrchiad=14 Gorffennaf 2022 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==