August Bebel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen, bywyd cynnar
Tagiau: Golygiad cod 2017
gyrfa wleidyddol, marwolaeth, dp
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy |image=August Bebel c1900.jpg |caption=August Bebel (tua 1900). }}
[[Gwleidydd]] ac awdur [[sosialaeth|sosialaidd]] o [[Almaenwr]] oedd '''August Bebel''' ([[22 Chwefror]] [[1840]] – [[13 Awst]] [[1913]]) sydd yn nodedig fel un o sefydlwyr [[Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen]] ac am arwain yr honno am 44 mlynedd, ers ei sefydlu hyd at ei farwolaeth.
 
Ganed ef yn Deutz, ger [[Cwlen]], yn [[Teyrnas Prwsia|Nheyrnas Prwsia]]. Turnio oedd ei grefft. Ymunodd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861 a phenodwyd yn gadeirydd yr honno ym 1865. Dylanwadwyd arno gan syniadau ei gyfaill [[Wilhelm Liebknecht]], ac ym 1869 efe oedd un o sefydlwyrcyd-sefydlasant y Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (yn ddiweddarach y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol). Gwasnaethodd yn y [[Reichstag]] ym 1867, 1871–81, a 1883–1913. Fe'i carcharwyd am bum mlynedd i gyd, gan gynnwys am [[enllibio]]'r Canghellor [[Otto von Bismarck]]. Ysgrifennodd sawl traethawd a gwaith propaganda, gan gynnwys ''Die Frau und der Sozialismus'' (1879).
 
== Bywyd cynnar ==
Ganed August Bebel ar 22 Chwefror 1840 yn Deutz—tref sydd bellach yn rhan o ganol dinas Cwlen—ar lan [[Afon Rhein]], yn Nhalaith y Rheindir, Prwsia. Swyddog digomisiwn ym Myddin Frenhinol Prwsia oedd ei dad. Cafodd August ei fagu mewn tlodi yn [[Wetzlar]]—a oedd yn [[allglofan]] i Dalaith y Rheindir—ac yno dysgodd grefft y turniwr. Teithiodd ar draws de'r Almaen ac [[Awstria]] yn cynnig ei waith, ac yng ngwanwyn 1860 ymsefydlodd yn [[Leipzig]], [[Teyrnas Sachsen]]. Ymaelododd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861, a daeth yn gadeirydd ym 1865.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/August-Bebel |teitl=August Bebel |dyddiadcyrchiad=14 Gorffennaf 2022 }}</ref>
 
== Gyrfa wleidyddol ==
Ymsefydlodd William Liebknecht yn Leipzig ym 1865, wedi iddo gael ei ddiarddel o [[Berlin|Ferlin]] am ei wrthwynebiad i lywodraeth Bismarck. Daeth y ddau ohonynt yn gyfeillion agos, a dylanwadodd syniadaeth sosialaidd Liebknecht yn gryf ar feddwl Bebel. Sefydlasant Blaid y Bobl Sacsonaidd (SVP) yn sgil [[Rhyfel Awstria a Phrwsia]] (1866), ac ym 1867 etholwyd Bebel i Reichstag Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen fel aelod o'r blaid. Ym 1869 unodd yr SVP gyda phleidiau eraill i ffurfio'r Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (SDAP), a fyddai'n newid ei enw i Blaid Lafur Sosialaidd yr Almaen (SAPD) ym 1875 ac i Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SDP) ym 1890.
 
== Diwedd ei oes ==
Bu farw August Bebel yn Passugg yn [[Canton y Grisons|y Grisons]], [[y Swistir]], yn 73 oed.<ref name=Britannica/>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* Francis L. Carsten, ''August Bebel und die Organisation der Massen'' (Berlin: Siedler, 1991).
* William Harvey Maehl, ''August Bebel: Shadow Emperor of the German Workers'' (Philadelphia: [[American Philosophical Society]], 1980).
 
{{DEFAULTSORT:Bebel, August}}