Ikurrina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
Yn 1938, wedi i'r Cadfridog [[Francisco Franco|Franco]] guro Llywodraeth Weriniaethol Sbaen, fe waharddwyd y faner, er iddi barhau i gael ei defnyddio gan y Basgwyr o fewn Iperralde (tair sir gogleddol y Basgiaid o fewn gwladwriaeth Ffrainc). Dros y degawdau a ddilynodd daeth yn symbol o wrthwynebiad y Basgwyr i lywodraeth asgell dde, genedlaetholaidd Sbaenaidd Franco ac fe'i defnyddiwyd gan fudiad terfysgol ETA fel baner o wrthryfel.
 
Cyfreithlonwyd yr Ikurrina ar 19 Ionawr 1977. Yn Erthygl 5 o [[Stadud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979]]. fe fabwysiadwyd yr ikurrina yn faner y Gymuned Hunanlywodraethol Basg. Fe'i defnyddir fel baner answyddogol gan Fasgwyr yn y bedair dalaith arall hefyd.
 
==Gwleidyddiaeth yr Ikurrina==