Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Roger Casement"

Ychwanegwyd 12 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
manion
B (r2.6.4) (robot yn ychwanegu: simple:Roger Casement)
(manion)
Ganed Casement yn ninas [[Dulyn]]. Protestant oedd ei dad, ond Catholig oedd ei fam, a dywedir iddi hi drefnu i'w ail-fedyddio yn eglwys Gatholig [[y Rhyl]] pan oedd yn dair oed. Roedd ei rieni ill dau wedi marw erbyn iddo gyrraedd deg oed.
 
Aeth Casement i [[Affrica]] yn [[1883]] pan oedd yn 19 oed. Yn y [[Congo]], bu'n gweithio i nifer o gwmniaugwmnïau, yn cynnwys yr ''Association Internationale Africaine'' a sefydlwyd gan [[Leopold II, brenin Gwlad Belg]]. Cyfarfu a [[Henry Morton Stanley]] a [[Joseph Conrad]] tra'r oedd yno.
 
Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas GyfunolUnedig yn [[Nigeria]]. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn [[1903]], gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn [[1904]], a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn [[1906]] gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn [[Rio de Janeiro]]. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion [[Periw]] gan y ''Peruvian Amazon Company'' Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i [[caethwasiaeth|gaethwasiaeth]] ar gyfer cynhyrchu [[rwber]]. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn [[1911]].
 
Yn [[1912]] gadawodd y gwasanaeth trefedigaethol, a daeth yn aelod o'r [[Irish Volunteers]] dan [[Eoin MacNeill]]. Pan oedd [[Gwrthryfel y Pasg]] yn cael ei baratoi, aeth i'r [[Almaen]] i geisio cefnogaeth. Ni chafodd lawer o lwyddiant, ond gyrrodd yr Almaenwyr long, yr ''Aud Norge'', yn cario arfau i Iwerddon. Wedi i'r llong hwylio, aed a Casement i Iwerddon mewn [[llong danfor]] a'i ollwng ar draeth Banna yn [[Swydd Kerry]]. Dymunai Casement atal y gwrthryfel, gan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth iddo fedru llwyddo. Cymerwyd ef yn garcharor yn fuan wedi iddo lanio.
Crogwyd Casement yn ngharchar Pentonville yn Llundain ar [[3 Awst]], 1916, a chladdwyd ef o fewn y carchar. Yn [[1965]], dychwelwyd ei gorff i Iwerddon, a'i gladdu ym [[Mynwent Glasnevin]].
 
{{DEFAULTSORT:Casement, Roger}}
 
[[Categori:HanesCenedlaetholdeb Iwerddon|Casement, RogerGwyddelig]]
[[Categori:Hanes Affrica|Casement, RogerChwyldroadwyr]]
[[Categori:CenedlaetholdebDiplomyddion Gwyddelig|Casement, Roger]]
[[Categori:PoblGenedigaethau o Ddulyn|Casement, Roger1864]]
[[Categori:GenedigaethauHanes 1864|Casement, RogerAffrica]]
[[Categori:Marwolaethau 1916|Casement, Roger]]
[[Categori:Pobl a gafwyd yn euog o frad]]
[[Categori:Pobl o Ddulyn]]
 
[[af:Roger Casement]]
64,545

golygiad