Bwrdeistref Redcar a Cleveland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} | suppressfields = cylchfa | ardal = <!-- gadewch yn wag --> | gwlad = {{banergwlad|Lloegr}} | sir = [[Gogledd Swydd Efrog]]<br />([[Siroedd seremonïol Lloegr|Siroedd seremonïol]]) }}
 
[[Awdurdodau unedol yn Lloegr|Awdurdod unedol]] yn sir seremonïol [[Gogledd Swydd Efrog]], [[Gogledd-ddwyrain Lloegr]], yw '''Bwrdeistref Redcar a Cleveland''' (Saesneg: ''Borough of Redcar and Cleveland''). Mae'r awdurdod unedol yn rhan o [[Awdurdod Cyfun Cwm Tees]], gyda Bwrdeistrefi [[Bwrdeistref Darlington|Darlington]], [[Bwrdeistref Hartlepool|Hartlepool]], [[Bwrdeistref Middlesbrough|Middlesbrough]], a [[Bwrdeistref Stockton-on-Tees|Stockton-on-Tees]].
 
Mae gan yr awdurdod unedol [[arwynebedd]] o 245&nbsp;[[km²]], gyda 137,150 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.<ref>[https://www.citypopulation.de/en/uk/admin/redcar_and_cleveland/E06000003__redcar_and_cleveland/ City Population]; adalwyd 7 Hydref 2020</ref> Mae'n ffinio ar [[Bwrdeistref Scarborough|Fwrdeistref Scarborough]] i'r de-ddwyrain, [[Ardal Hambleton]] i'r de-orllewin, Bwrdeistrefi [[Bwrdeistref Middlesbrough|Middlesbrough]] a [[Bwrdeistref Stockton-on-Tees|Stockton-on-Tees]] i'r gorllewin, a [[Bwrdeistref Hartlepool]] i'r gogledd-orllewin. Mae [[Môr y Gogledd]] yn gorwedd i'r gogledd o'r fwrdeistref.
 
[[Delwedd:Redcar and Cleveland UK locator map.svg|bawd|dimcanol|Awdurdol unedol Bwrdeistref Redcar a Cleveland yng Ngogledd Swydd Efrog]]
 
Ffurfiwyd yr ardal dan [[Deddf Llywodraeth Leol 1972|Ddeddf Llywodraeth Leol 1972]], ar [[1 Ebrill]] [[1974]], fel bwrdeistref '''Langbaurgh''', un o'r pedair ardal yn sir an-fetropolitan [[Cleveland]]. Ailenwyd yr ardal yn '''Langbaurgh-on-Tees''' ar [[1 Ionawr]] [[1988]]. Diddymwyd sir Cleveland ar [[1 Ebrill]] [[1996]], a daeth Langbaurgh-on-Tees yn awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, gyda'r enw newydd ''Redcar a Cleveland''.