[[File:Kleine rietgans in de sneeuw-4961710.webm|thumb|chwith|Anser brachyrhynchus]]
Mae'r '''Ŵydd Droedbincdroedbinc''' (''Anser brachyrhynchus'') yn ŵydd sy'n nythu yn [[Yr Ynys Las]], [[Gwlad yr Iâ]] a [[Svalbard]]. Mae'n treulio'r gaeaf yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]], yn enwedig [[Prydain]], ond mae'r boblogaeth sy'n nythu yn Svalbard yn treulio'r gaeaf yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]], [[Yr Iseldiroedd]] a [[Denmarc]].
Un o'r "gwyddau llwyd" yw'r Ŵydd Droedbincdroedbinc, a gall fod yn anodd ei gwahaniaethu oddi wrth rhai o'r gwyddau eraill megis yr [[Gŵydd lwyd|Ŵydd lwyd]] a [[Gŵydd y Llafur]]. Mae yn wydd ychydig yn llai na'r ddwy yma, ac mae'r coesau a'r traed yn binc yn hytrach nag yn oren. Mae'r pig yn fyr gyda darn pinc yn y canol, ac mae'r gwddf fel rheol yn edrych yn llawer tywyllach na'r corff. Wrth hedfan mae'n dangos darnau o liw llwydlad ar dop yr adenydd fel yr Ŵydd Wyllt.
Nid yw'r Ŵydd Droedbincdroedbinc yn aderyn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]], ond gellir gweld rhai yn gaeafu yma, yn aml gyda gwyddau eraill.