Gŵydd (ddof): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Aderyn sy'n aelod o'r [[Gŵydd|gwyddau]] yw '''Gŵydd ddof'''. Fe'i cedwir ar draws rhan helaeth o'r byd, i'w bwyta, am eu wyau neu weithiau am eu plu.
 
Yn [[Ewrop]], [[Gogledd Affrica]] a gorllewin [[Asia]], mae'r ŵydd ddof wedi ei datblygu o'r [[Gŵydd WylltLwyd|Ŵydd WylltLwyd]] (''Anser anser''), a gelwir yr is-rywogaeth dof yn ''Anser anser domesticus''. Yn nwyrain Asia, datblygwyd yr ŵydd ddof o'r [[Alarchwydd]] (''Anser cygnoides''). Erbyn hyn, ceir y ddau fath mewn rhannau eraill o'r byd.
 
Ymddengys fod yr ŵydd ddof yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, ac mae tystiolaeth archaelegol o'u presenoldeb yn yr [[Hen Aifft]] 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Maent yn fwy na'r Ŵydd Wyllt a'r Alarchwydd, gan bwyso hyd at 10 kg. Gallant ddodwy hyd at 160 ŵy mewn blwyddyn.
 
==Gweler hefyd==
 
* [[Gyrru gwyddau]]