Electron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu swmp i'r egyn. (Hanes yn bennaf)
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu llun
Llinell 7:
== Hanes ==
Roedd yr [[Groeg yr Henfyd|Hen Roegiaid]] yn ymwybodol o’r ffenomen trydan (statig yn ein profiad ni) wrth iddynt sylweddoli bod [[ambr]], ar ôl ei rwbio a ffwr, yn ad-dynnu gwrthrychau bychain. Mae’r weithred o rwbio yn trosglwyddo electronau o’r ffwr i’r ambr gan roi iddo wefr negatif. Daw enw’r electron o’r gair Groeg am ambr (ἤλεκτρον (ēlektron))<ref>{{Cite web|url=https://pwg.gsfc.nasa.gov/Education/whelect.html|title=History of the Electron|date=25 Tachwedd 2001|access-date=16 Awst 2022|website=NASA (Archif)}}</ref>. Erbyn dechrau’r ddeunawfed ganrif dyfarnwyd bod dwy fath o hylif ag iddynt wefr - un negatif (yn gyfrifol am effaith yr ambr) ac un positif (gwydr wedi’i rwbio a sidan). Ond wrth ddehongli arbrofion a wnaeth ar ôl 1746 daeth [[Benjamin Franklin]], y polymath o America, i’r casgliad mai gormodedd neu ddiffyg yr un hylif oedd yn gyfrifol. Ystyriodd mai positif yn ei hanfod oedd yr hylif hwn - ond gan nad oedd modd iddo fesur i ba gyfeiriad roedd yr hylif yn llifo fe wnaeth y penderfyniad “anghywir” a byth ers hynny gwefr negatif sydd i’r hylif (ac i drydan).
[[Delwedd:Crookes tube-in use-lateral view-standing cross prPNr°11.jpg|chwith|bawd|Tiwb Pelydrau Cathod (yn ôl William Crookes). Gweler cysgod Croes Melita]]
 
Canrif yn ddiweddarach darganfuwyd pelydrau cathod (''cathode rays'') gan yr Almaenwyr Julius Plücker<ref>{{Cite web|url=https://makingscience.royalsociety.org/s/rs/people/fst00175358|title=Julius Plücker|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=The Royal Society}}</ref> a Eugen Goldstein<ref>{{Cite web|url=https://www.youtube.com/watch?v=oNhhZmgnNEM|title=Eugen Goldstein Biography - What did Eugene Goldstein discover?|date=29 Mehwfin 2021|access-date=16 Awst 2022|website=You Tube}}</ref> ac yn 1897 profodd y Sais J.J. Thomson<ref>{{Cite web|url=https://www.sciencehistory.org/historical-profile/joseph-john-j-j-thomson|title=Joseph John “J. J.” Thomson|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=Science History Institute}}</ref> mai gronynnau unigol oedd yn gyfrifol am y ffenomen. Mesurodd eu gwefr a’i màs yn eithaf manwl. Rhoddwyd yr enw electron iddynt gan y gymuned wyddonol ryngwladol<ref>{{Cite journal|url=https://royalsocietypublishing.org/doi/10.1098/rsnr.1975.0018|title=George Johnstone Stoney, F. R. S. and the concept of the electron|last=O'Hara|first=J.G.|date=1 Mawrth 1975|journal=The Royal Society Journal of the History of Science|volume=29 (2)}}</ref>. Yn 1911, datblygodd yr Albanwr Charles Wilson Siambr Cwmwl<ref>{{Cite web|url=https://en.wikipedia.org/wiki/Cloud_chamber|title=Cloud Chamber|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=Wikipedia}}</ref> a oedd yn dangos llwybrau gronynnau ag iddynt wefrau - gan gynnwys yr electron. Dyfarnwyd iddo hanner Wobr Nobel Ffiseg 1927<ref>{{Cite web|url=https://www.nobelprize.org/prizes/physics/1927/summary/|title=The Nobel Prize in Physics 1927|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=Y Gwobr Nobel}}</ref> am y ddyfais. Defnyddio a datblygu’r Siambr Cwmwl oedd conglfaen arbrofion y Cymro [[Evan James Williams]]<ref>{{Cite book|title=Evan James Williams. Ffisegydd yr Atom|last=Wynne|first=Rowland|publisher=Gwasg Prifysgol Cymru|year=2017|isbn=978-1-78683-072-2|location=Caerdydd|pages=59-62}}</ref> a gymerodd rhan flaenllaw yn natblygiad ffiseg y cwantwm yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif.