Electron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Mymryn am ddatblygiad y Teledu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cysylltiadau
Llinell 12:
Un o ffrwyth pwysicaf y datblygiadau yma oedd dehongli natur ac ymddygiad yr electron yn yr atom gan [[Ernest Rutherford]], [[Niels Bohr]], Gilbert Newton Lewis<ref>{{Cite web|url=https://www.sciencehistory.org/historical-profile/gilbert-newton-lewis|title=Gilbert Newton Lewis|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=Science History Institute}}</ref>, Wolfgang Pauli<ref>{{Cite web|url=https://www.nobelprize.org/prizes/physics/1945/pauli/biographical/|title=Wolfgang Pauli|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=Y Gwobr Nobel}}</ref>, [[Erwin Schrödinger]], Paul Dirac<ref>{{Cite web|url=https://www.nobelprize.org/prizes/physics/1933/dirac/facts/|title=Paul A.M. Dirac|date=2022|access-date=16 Awst 2022|website=Y Gwobr Nobel}}</ref> ag eraill.
 
Modd o gynhyrchu a llywio ffrwd o electronau yw'r Tiwb Pelydr Cathod<ref>{{Cite web|url=https://en.wikipedia.org/wiki/Cathode-ray_tube|title=Cathode Ray Tube|date=11 Awst 2022|access-date=17 Awst 2022|website=Wikipedia}}</ref> (CRT) a datblygwyd gan Plücker ag eraill ar droad yr ugeinfed ganrif. Daw'r electronau o "gwn" electronau (y cathod) ac wrth symud trwy wactod y tiwb mae modd eu llywio trwy feysydd drydanol neu fagnetig i gyflyru patrymau o olau mewn haen o ffosffor ar wyneb y tiwb. Yn 1926 dangosodd y peiriannydd o [[Japan]], Kenjiro Takayanagi<ref>{{Cite web|url=https://ethw.org/Milestones:Development_of_Electronic_Television,_1924-1941|title=Milestones:Development of Electronic Television, 1924-1941|date=14 Mehefin 2022|access-date=17 Awst 2022|website=Engineering and Technology History Wiki}}</ref>, [[Teledu]] (CRT) am y tro cyntaf. Roedd 40 llinell i'w lun. Tan dyfodiad y sgrîn fflat ar ddiwedd y ganrif, gellid dadlau mae'r CRT oedd un o ddyfeisiadau mwyaf dylanwadol y ganrif.
 
Erbyn heddiw mae deall ymddygiad yr electron a’i defnyddio yn ganolog i’r [[electroneg]] sydd wrth gefn cymaint o fyd yr Unfed Ganrif ar Hugain.
 
== Cyfeiriadau ==