Ogof Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Robot: Yn fformatio'r rhif ISBN
Llinell 1:
[[Delwedd:Neanderthaler Fund.png|thumb|200px|right|Argraff arlunydd o Ddyn Neanderthal]]
 
Mae '''Ogof Bontnewydd''' (neu '''Bont Newydd''') ger pentref [[Cefnmeiriadog]] yn nyffryn [[afon Elwy]] yn [[Sir Ddinbych]] (Cyfeirnod OS: SJ01527102) yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear [[Cymru]] gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Carreg [[calchfaen|galchfaen]] yw'r ogof ac nid ydyw ar agor i'r cyhoed. Yn wir, dim ond un man arall drwy [[wledydd Prydain]] sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex).<ref>The Archaeology of Clwyd, Cyngor Sir Clwyd 1991 tudalen 32</ref><REF>Hanes Cymru gan John Davies, Cyhoeddwr: Penguin, 1990, ISBN: 0-14-012570-1; tudalen 3</ref> Mae'n perthyn i [[Hen Oes y Cerrig yng Nghymru|Hen Oes y Cerrig]] (neu Paleolithig).
 
Bu [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] yn gyfrifol am gloddio yma rhwng 1978 a 1995. Ymysg y darganfyddiadau yn yr ogof yr oedd dannedd a rhan o ên bodau dynol oedd yn ffurf gynnar ar [[Dyn Neanderthal|Ddyn Neanderthal]]. Cafwyd hyd i 19 o ddannedd i gyd, yn perthyn i bum unigolyn yn amrywio o ran oed o blant ieuanc i oedolion. Credir bod perchenogion y rhain wedi byw rywbryd rhwng 230,000 a 185,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, ac esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt.