Llyn Celyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
categorïau
ehangu fymryn a thacluso
Llinell 1:
Mae '''Llyn Celyn''' yn [[Cronfa dŵr|gronfa ddŵr]] fawr a adeiladwyd yn [[1961]] trwy adeiladu [[argae]] ar draws [[Afon Tryweryn]] yng ngogledd [[Cymru]]. Mae'n gorwedd ar yr [[A4212]] tua tair milltir i'r gorllewin o'r [[Bala|Bala]], [[Gwynedd]].
 
O ganlyniad i greu'r gronfa, boddwyd pentref [[Capel Celyn]], rhywbeth fu'n achos llawer o ddicter yng Nghymru gyda llu o brotestiadau ac ymgyrch terfysgol yn erbyn y gwaith adeiladu gan aelodau [[Mudiad Amddiffyn Cymru]] ac eraill. Yr oedd y pentref yn un o gadarnleoedd y diwylliant Cymreig[[Cymraeg]], tra roedd y gronfa wedi ei bwriadu i gyflenwi dŵr i [[Lerpwl]] a'r cyffiniau yng ngogledd-orllewin [[Lloegr]]. Llwyddodd Cyngor Dinas Lerpwl i gael y ddeddf angenrheidiol trwy'r senedd[[San Steffan]] er i 35 allan o 36 [[Aelod Seneddol]] Cymru bleidleisio yn erbyn y mesur. Bu hyn yn achos cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]]. Ym mis Hydref [[2005]], cytunodd Cyngor Dinas Lerpwl i ymddiheuro'n gyhoeddus am y digwyddiad.
 
[[Image:Tryweryn_memorial_chapel_w.JPG|thumb|right|250px|Capel Coffa Tryweryn gerllaw Llyn Celyn]]
[[Image:Llyn Celyn dam and tower w.JPG|thumb|250px|left|Llyn Celyn]]
 
Adeiladwyd y gronfa i reoli llif [[Afon Dyfrdwy]] fel bod modd tynnu dŵr ohoni yn is i lawr. Mae dŵr yn cael ei ollwng o'r gronfa i Afon Tryweryn ac felly i [[Afon Dyfrdwy]]. Oherwydd fod modd rheoli'r llif, mae'r rhan o Afon Tryweryn islaw'r argae yn boblogaidd ar gyfer canwio[[canŵio]] gan ymwelwyr.
 
[[Categori:Llynnoedd Cymru|Celyn]]
[[Categori:Gwynedd]]
[[Categori:Gwleidyddiaeth Cymru]]
 
[[en:Llyn Celyn]]