Dinmael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Hen arglwyddiaeth a chwmwd yng nghalon Gogledd Cymru yw '''Dinmael'''. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cyfnodau. Mae ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Hen [[arglwyddiaeth]] a [[cwmwd|chwmwd]] yng nghalon [[Gogledd Cymru]] yw '''Dinmael'''. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cyfnodaucofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.
 
Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a'r [[Berfeddwlad]] i'r gogledd a [[teyrnas Powys|Phowys]] yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag [[Edeirnion]] a [[Penllyn|Phenllyn]], dau [[cantref|gantref]] strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi [[Rhos]] a [[Dyffryn Clwyd (cantref)|Dyffryn Clwyd]]. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn [[Oes y Tywysogion]] oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o [[Glyndyfrdwy|Lyndyfrdwy]] trwy [[Cerrigydrudion|Gerrigydrudion]] i gyfeiriad [[Nant Conwy]] a chalon Gwynedd.