Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei le: 'Hen ŵyl Geltaidd ydyw '''Calan Mai''' (neu '''Gŵyl Calan Mai''') sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd '''Beltane''', neu Cétshamhain mew...'
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 46.33.241.195 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Adam.
Llinell 1:
[[Delwedd:Maypole Sweden.jpg|bawd|dde|250px|[[Y Fedwen Fai]] neu'r Fedwen Haf]]
Hen ŵyl Geltaidd ydyw '''Calan Mai''' (neu '''Gŵyl Calan Mai''') sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Gelwir hi hefyd '''Beltane''', neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon.
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]]
Hen ŵyl sy'n nodi dechrau'r haf ydyw '''Calan Mai''' (hefyd a elwir yn '''Gŵyl Calan Mai''', neu '''Calan Haf''') a ddethlir ar [[1 Mai]]. Yr oedd yn ŵyl bwysig i'r [[Celtiaid]] a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd yn '''''Beltane''''' neu '''''Bealtaine''''', neu ''Cétshamhain'' mewn [[Gwyddeleg]]. Fel y mae'r enw ''Bealtaine'' yn ei awgrymu, y mae'r duw Celtaidd [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, y mae'n gorwedd rhwng [[Gŵyl Fair|Gŵyl y Canhwyllau]] (1 Chwefror) ac [[Alban Hefin]] (21 Mehefin). Yr oedd [[dawnsio haf]] a [[Codi'r Fedwen|chodi'r fedwen]] (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir [[Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr]] ar Galan Mai hefyd.
 
== Arferion ac arwyddocâd ==
Yn y [[Sanas Cormac]], dywedir fod gan y [[derwydd]]on le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er mwyn eu diogelu rhag clefydau.<ref>Gwyn Thomas. ''Duwiau'r Celtiaid''. Llafar Gwlad 24.</ref>
 
Gŵyl [[ffrwythlondeb]] a [[twf|thwf]] oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.<ref>''Duwiau'r Celtiaid''</ref>
 
Yn ôl y [[Mabinogi]], arferai [[Gwyn ap Nudd]] a [[Gwythyr fab Greidawl]] ymryson â'i gilydd am law [[Creiddylad]] brydferth pob Calan Mai.
 
== Traddodiadau Cymreig ==
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.<ref>Trefor M. Owen. ''Welsh Folk Customs''. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.</ref>
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.<ref>''Welsh Folk Customs''</ref>
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.<ref>''Welsh Folk Customs''</ref>
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a [[gwaseila]].<ref>''Welsh Folk Customs''</ref>
 
== Neo-baganiaeth ==
Mae'n un o wyliau [[Wica]] ac fe'i dethlir gan [[neo-baganiaeth|neo-baganiaid]] eraill hefyd.
 
== Gwleidyddiaeth ==
[[Delwedd:1989 CPA 6059.jpg|250px|bawd|Stamp [[Rwsia]]idd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.]]
Dethlir [[Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr]] ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889.
Yn yr hen [[Undeb Sofietaidd]] a gwledydd eraill [[y Bloc Dwyreiniol]] cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.
 
== Gweler hefyd ==
* [[Alban Arthan]]
* [[Alban Eilir]]
* [[Alban Elfed]]
* [[Alban Hefin]]
* [[Beltany]]
* [[Gŵyl Fair]]
* [[Nos Calan Gaeaf]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Gwyliau Celtaidd}}
 
[[Categori:Gwyliau]]
[[Categori:Gwyliau Celtaidd]]
[[Categori:Paganiaeth]]
 
[[ast:Beltane]]
[[bg:Белтейн]]
[[cs:Beltain]]
[[de:Beltane]]
[[el:Μπελτέιν]]
[[en:Beltane]]
[[eo:Belteno]]
[[es:Beltane]]
[[eu:Bealtaine]]
[[fi:Beltane]]
[[fr:Beltaine]]
[[gd:Bealltainn]]
[[gl:Beltane]]
[[hu:Beltane]]
[[it:Beltane]]
[[lt:Beltane]]
[[ms:Beltane]]
[[nl:Beltane]]
[[nn:Beltane]]
[[no:Beltane]]
[[pl:Beltane]]
[[pt:Beltane]]
[[ru:Белтейн]]
[[sv:Beltine]]