Colunwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cyfeiriadau: cat |
Daffy (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Yn yr [[Oesoedd Canol]], arglwyddiaeth yn [[Swydd Amwythig]] wrth y ffin â [[Cymru|Chymru]] oedd '''Colunwy''' ([[Saesneg]]: ''Clun''). Cyn hynny bu'n rhan o hen deyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]], efallai fel [[cwmwd]] yn y deyrnas honno.
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu Colunwy yn rhan o Bowys ar adeg pan roedd y deyrnas honno yn cynnwys rhan sylweddol o'r Swydd Amwythig ddiweddarach a rhan o [[Swydd Henffordd]].
Gorweddai Colunwy yn ne-orllewim [[Swydd Amwythig]], yn nhiriogaeth arglwyddi Normanaidd [[y Mers]]. Ffiniai'r arglwyddiaeth strategol â chymydau [[Ceri (cwmwd)|Ceri]] a [[Maelienydd]] yn ardal [[Rhwng Gwy a Hafren]], i'r gorllewin yng nghanolbarth Cymru, a rhan o [[Swydd Henffordd]] i'r de. Llifa [[afon Tefeidiad]] trwy'r diriogaeth. Un o'r prif ganolfannau oedd tref [[Clun]], lle ceir castell Normanaidd.
|