Rhys ap Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolennau allanol
Llinell 6:
Erbyn i [[Harri Tudur]] lanio yn [[Sir Benfro]] yn Awst [[1485]] roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Gwnaed ef yn farchog yn fuan wedi Brwydr Bosworth, a rhoddwyd nifer o swyddi yn ne Cymru iddo. Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys [[Lewys Glyn Cothi]], [[Dafydd Nanmor]], [[Huw Cae Llwyd]] a [[Tudur Aled]].
 
Dienyddwyd Syr Rhys yn 1525 ar orchymyn [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] ar y cyhuddiad - di-sail mae'n debyg - ei fod yn cynllwynio yn erbyn y Goron. Cafodd ei gladdu mewn beddrod ym [[Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog|Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog]] yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]]; ar ôl [[diddymu'r mynachlogydd]] cafodd ei symud i Eglwys Sant Pedr lle mae i'w weld heddiw.
 
==Bywgraffiad==