R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 33:
Nid dim ond meistr ar lunio ysgrifau a chyfrolau trymion oedd Tudur, roedd ganddo ddawn fel newyddiadurwr poblogaidd. Bu'n olygydd newyddiaduron Cymraeg a Saesneg Plaid Cymru am gyfnodau maith. Cyhoeddodd bentwr o ysgrifau yn y cylchgrawn [[Barn]] yn ogystal a'i erthygl wythnosol, 'Tremion', yn y Cymro a barhaodd hyd 1997 pan gyhoeddodd yr olaf, rhif 1,508! Cyhoeddwyd detholiad o'r 'Tremion' gorau mewn llyfryn yn dwyn y teitl 'Darganfod Harmoni' yn 1982. Cymaint oedd ei ddawn fel newyddiadurwr nes i'r Daily Express, yn 1968, gynnig swydd lawn amser iddo (a hynny ar gyflog sylweddol uwch nag yr enillasai fel Prifathro Bala-Bangor) fel colofnydd materion Cymreig. Dywedodd [[Bobi Jones]] am ei ddawn fel newyddiadurwr; 'Newyddiadurwr crefyddol yw ef sydd, ymddengys i mi... yn fwy o ysgolhaig lawer na'r un a gafwyd o'r blaen yn Ynysoedd Prydain.'
 
Roedd ei rôl fel arweinydd Eglwysig oedd a daliadau uniongred wedi ei asio a newyddiaduraeth a'i ymwnelo a Phlaid Cymru yn ei wneud yn ffigwr nid annhebyg i'r gwladweinydd [[Calfinaidd]] o'r [[Iseldiroedd]] [[Abraham Kuyper]] yn ôl Bobi Jones. Byddai Tudur yn gosod ei hun ar y sbectrwm diwinyddol yn agos at Kuyper a Chalfinwyr yr Iseldiroedd ond fe frysia R. Geraint Gruffydd i bwysleisio mai ei '...ddyn ei hun...' oedd Tudur a'i fod yn ddigon o feddyliwr i allu dod i'w gasgliadau ei hun. Ategu hyn a wna D. Densil Morgan pan ddywed '...ategu'r syniadaeth a oedd ganddo eisoes a wnaeth Kuyper a'i ddisgyblion, ac ni fu Tudur erioed yn slafaidd ddyledus iddynt.' Down i'r casgliad felly bod Tudur yn uniongred Brotestannaidd ond ei fod yn wahanol i'r grwpiau Protestannaidd hynny megis y Pietistiaid a dueddai, yng ngeiriau Tudur ei hun, i '...ymddeol a gadael y ddaear a'i diwylliant i elynion Duw' Roedd a wnelo diwinyddiaeth Tudur â'r byd yma yn ogystal â'r byd nesaf.
 
Erbyn yr wythdegau roedd Tudur yn ffigwr crefyddol o bwys rhyngwladol. Ef oedd llywydd Cynghrair Annibynwyr y Byd rhwng 1981-85 ac yn gymedrolwr Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru 1985-6. Ddechrau'r nawdegau fe'i gwahoddwyd, yn un o ugain yn unig, i gyfarfod tyngedfennol yn hanes undod efengylaidd ym Mhrydain i bwyso a mesur yr ymateb i Fendith Toronto; ef a ddaeth, gyda'i falans o gariad a doethineb, a heddwch i'r trafodaethau. Fe'i gipiwyd gan drawiad calon a hynny yn gwbl anisgwyliedig fis Gorffennaf 1998. Roedd yng nghanol gwaith sylweddol arall pan aeth at ei waredwr, cyfrol ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Erys y teyrngedau iddo gan ei wrthwynebwyr diwinyddol yn ogystal a'i gefnogwyr i R. Tudur Jones fod yn ffigwr sylweddol yn hanes crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru'r Ugeinfed Ganrif.
 
 
== Ffynhonellau ==