R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ganwyd '''Robert Tudur Jones''' ([[28 Mehefin ]] [[1921]]-[[1998]]) yn y Tyddyn Gwyn, Rhos-lan, [[Cricieth]], ar 28 Mehefin 1921 yn fab hynaf i John Thomas ac Elizabeth Jones. Bu dylanwad [[diwygiad 1904-1905]] yn drwm ar ei rieni ac felly gellir cymryd yn ganiataol bod crefydda yn fwy na defod ddiwylliannol yn unig i'r teulu. Gyda Tudur dal yn ifanc bu i ofynion gwaith orfodi'r teulu i symud i'r [[Rhyl]], yn gyntaf i dŷ yn ymyl Pont y Foryd ac wedi hynny ymsefydlu mewn tŷ mwy ar Princes Street. Erbyn hyn roedd ganddo frawd a chwaer iau, John Ifor a Meg. Gweithio fel gard rheilffordd i'r LMS oedd ei dad ac o blegid byw'n syml, yn blaen ac yn ofalus oedd yn reidrwydd i'r teulu.
 
Yn y Rhyl deiau'r byd Cymraeg a Saesneg ynghyd. Saesneg oedd iaith ysgol Christ Church a diwylliant poblogaidd y dref ond y Gymraeg oedd iaith y cartref a'r capel. Mynychu capel Carmel yr Annibynwyr yr oedd teulu Tudur; y gweinidog bryd hynny oedd T. Ogwen Griffith – gwr efengylaidd ei ogwydd oedd yn atyniad, bid siŵr, i ysbrydolrwydd rhieni Tudur. Yn y blynyddoedd cynnar yma yng Ngharmel y daeth ei ddoniau a'i allu anarferol i'r amlwg gyntaf a hynny drwy gofio ac adrodd adnodau yn y Capel. Yr arfer ar y pryd oedd i bob plentyn adrodd adnod neu ddwy; rhoes Tudur gynnig ar adrodd penodau cyfan. Bu rhaid i'w Dad roi'r caead ar y sospan pan gyhoeddodd un diwrnod ei fod am fynd ati i ddysgu'r Salm fawr o'i gof! Nododd [[D. Densil Morgan]] fod '...tynerwch ei fam (a fu farw yn gwbl annisgwyl yn [[1932]] yn 44 oed), cadernid ei dad a chymdeithas aelwyd a chapel yn ddylanwadau ffurfiannol arno.'
Llinell 17:
 
 
Er iddo ddechrau creu enw iddo ef ei hun fel pregethwr grymus fe wyddai pawb mae fel academydd y gallasai gyflawni'r gymwynas fwyaf i'r Annibynwyr ac i Gymru yn gyffredinol. Wedi dwy flynedd yn unig fel gweinidog daeth cadair Hanes yr Eglwys ym Mala-Bangor yn rhydd wedi i [[Pennar Davies]] symud i'r [[Coleg Coffa]] yn [[Aberhonddu]], gwahoddwyd Tudur i ymuno a staff y Coleg ac fe dderbyniodd. Wedi marwolaeth [[Gwilym Bowyer]] yn 1965 fe'i dyrchafwyd yn brifathro. Yn ogystal a'i ddyletswyddau ym Mala-Bangor fe'i cyflogwyd gan adran Astudiaethau Beiblaidd y Brifysgol fel darlithydd mewn Syniadaeth Gristnogol o 1957 ymlaen ac yn dilyn cau Bala-Bangor ddiwedd yr wythdegau fe'i penodwyd fel Athro Anrhydeddus gan adran Ddiwinyddiaeth y Brifysgol.
 
Cyhoeddwyd flaen ffrwyth ei D.Phil. ar ffurf ysgrif yn dwyn y teitl 'Vavasor Powell a'r Bedyddwyr' yn 1949. Gydol y pumdegau ymddangosai ysgrifau sylweddol a safonol ganddo mewn cyfnodolion a chylchgronau Cymraeg a Saesneg ar hanes crefydd. Ond fel y noda D. Densil Morgan '...rhagymadrodd oedd y rhain ar gyfer yr un gyfrol a oedd, ac a erys, yn un o glasuron hanes ein crefydd sef 'Hanes Annibynwyr Cymru' (1966) Mae hon yn gyfrol o bwys mawr, dywedodd [[Geraint H Jenkins]] amdano; 'This beautifully written book.... became an instant classic and is unlikely ever to be superceded...' Nododd [[R. Geraint Gruffydd]] amdani; '...o fewn cwmpas un pâr o gloriau, ....[ceir] hanes Cristnogaeth Brotestannaidd yng Nghymru o ddechrau'r Rhyfeloedd Cartref (a chyn hynny) hyd heddiw... mae'n anodd meddwl yr ysgrifennir fyth ei well...' Fe gyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r gyfrol bwysig hon gan Wasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth [[Robert Pope]] yn 2004. Fe ddilynwyd 'Hanes Annibynwyr Cymru' gan 'Yr Undeb: Hanes Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1872-1972' (1975). Yn y gyfrol hon amlygwyd unwaith yn rhagor fod Tudur yn feistr ar ryddiaith Gymraeg. Noda D. Densil Morgan; 'Nid nofel mo'r gyfrol ond mae'n darllen yn well na llawer nofel...' Roedd ei ddawn i ddod a hanes yn fyw, yn ei lyfrau yn ogystal a'i ddarlithiau yn ddawn arbennig a phrin iawn.
Llinell 23:
Gwnaeth Tudur enw iddo ef ei hun yn ogystal ym maes cyhoeddi hanes crefydd yn Saesneg. Ei gyfrol orchestol gyntaf (cyn unrhyw lyfr Cymraeg yn eironig ddigon) oedd 'Congregationalism in England, 1662-1962' (1962). Ystyrir y gyfrol hon fel un o'r rhai mwyaf awdurdodedig ar Hanes yr Eglwys Gynulleidfaol yn Lloegr. Daeth ei enw i amlygrwydd unwaith yn rhagor ym myd cyhoeddi hanes crefydd yn Saesneg, yn enwedig felly yn yr UDA, yn 1985 pan gyhoeddodd gyfrol ar y Diwygiad Protestannaidd, 'The Great Reformation, from Wycliffe to Knox', yn 1985. Fe ail-gyhoeddwyd y gyfrol hon gan Wasg Bryntyrion yn 1997.
 
Erbyn y saithdegau symudodd ei ddiddordeb ymchwil rywfaint o gyfnod y Piwritaniaid i gyfnod llawer mwy diweddar sef crefydd yng Nghymru yn oes Fictoria. Ffrwyth yr ymchwil yma oedd cyhoeddi dwy gyfrol sylweddol yn dwyn y teitlau 'Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890-1914', cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1981 ac fe'i dilynwyd gan yr ail flwyddyn yn ddiweddarach. Mae peth anghytundeb ynglŷn ac arwyddocâd y cyfrolau hyn gyda rhai fel R. Geraint Gruffydd yn dadlau '...anodd meddwl nad y gwaith hwn a gyfrifir yn fwyaf arwyddocaol...' tra bod eraill yn dal mae 'Hanes yr Annibynwyr' oedd ei magnus opus gan ddadlau fod amgylchiadau'r cyfnod, pleidlais na '79, yn gysgod dros Tudur ar y pryd ac y bydda'i gasgliadau fymryn yn wahanol petai wedi ei ysgrifennu wedi Refferendwm 1997. Boed hon y gyfrol orau neu beidio ganddo does dim gwadu fod ynddo ddadansoddiad manwl a chraff o'r newid crefyddol a ddigwyddodd yng Nghymru droad yr Ugeinfed Ganrif. Gwerth nodi fod yr ail gyfrol yn cynnwys penodau gwerthfawr iawn yn adrodd hanes Diwygiad 04-05. Mae'r ddwy gyfrol yma wedi eu cyfieithu a'u cyhoeddi fel un cyfrol Saesneg, unwaith yn rhagor wedi ei olygu gan [[Robert Pope]] a'i cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2004.