BBC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
AlunJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Corfforaeth [[darlledu|ddarlledu]] cyhoeddus y [[D.U.]] yw'r '''BBC''' (dyweder "bi bi ec"). Mae'n darparu gwasanaethau [[teledu]] a [[radio]] trwy'r D.U., ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau [http://www.bbc.co.uk], a'r gwasanaeth radio ''[[BBC World Service]]''.
 
Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yn [[Llundain]], gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Yng Nghymru mae gan [[BBC Cymru]] bresenoldeb yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], [[Bangor]], [[Aberystwyth]], [[Caerfyrddin]], [[Casnewydd]] a [[Wrecsam]] a nifer o stiwdios eraill di-griw yn cynnwys Abertawe.
 
Mae [[BBC Cymru]] yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni teledu Cymraeg [[S4C]], rhaglenni radio yn Gymraeg ar [[Radio Cymru]] ac arlein ar ''[http://www.bbc.co.uk/cymru Cymru'r Byd]''.