Richard Davies (Mynyddog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Roedd Mynyddog yn fardd hynod boblogaidd yn ei ddydd ymhlith y werin bobl, fel ei gyfoeswr [[John Ceiriog Hughes|Ceiriog]]. Dechreuodd Mynyddog farddoni yn y dull eisteddfodol oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda'r [[Pryddest|bryddest]] a'r [[awdl]] gorlwythedig â delweddau aruchel, ond yn fuan yn ei yrfa trodd i gyfansoddi cerddi byrrach ar y mesurau rhyddion ac ar geinciau poblogaidd Seisnig. Roedd y cerddi hyn yn gerddi i'w datgan a'u canu, ac yn ymwneud a phethau roedd pawb yn eu deall, megis bywyd natur a chylch y tymhorau, caru, difyrrwch diniwed, hiraeth a throeon bywyd beunyddiol, weithiau'n drist, weithiau'n ddoniol.
 
Cafodd yrfa hir ar lwyfannau'r eisteddfodau, bach a mawr, yn cyflwyno, yn adrodd ac yn datgan ei gerddi. Teithiodd bob rhan o Gymru a bu ar daith i [[America]] hefyd, gan ymweld â [[Rhaeadr Niagara]] ac [[Efrog Newydd]]. Roedd yn gyfaill i'r [[baled]]wr [[Owain Meirion]].
 
Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi yn ystod ei oes, yn [[1866]], [[1870]] a [[1877]]. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith i'r [[Y cylchgrawn Cymraeg|cylchgronau]] llenyddol Cymraeg yn ogystal. Cofir amdano hefyd am iddo weithio gyda [[Joseph Parry]] ar yr [[opera]] [[Blodwen]]. Yr unig gerdd ganddo sy'n aros yn boblogaidd heddiw yw'r gerdd wladgarol ysgafn "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg".