Coctel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion
B dolen di-angen
Llinell 2:
[[Delwedd:Cocktail1.jpg|bawd|dde|Coctel traddodiadol, wedi ei arllwys i mewn i wydryn coctel.]][[Diod]] [[alcohol]]aidd ffasiynol sy'n gymysgedd o ddau neu ragor o gynhwysion wedi'u cymysgu a'u paratoi mewn ffordd arbennig yw '''coctêl'''. Yn wreiddiol, arferai'r term coctel gyfeirio at gymysgedd o [[gwirod|wirodydd]], [[siwgr]], [[dŵr]], a [[chwerw (diod)|chwerwon]],<ref>How To Mix Drinks gan Thomas, Jerry. 1862</ref> ond yn raddol newidiodd y gair i olygu unrhyw ddiod bron sy'n cynnwys [[alcohol]].<ref>The Joy of Mixology gan Gary Regan.] 2003. Cyhoeddwr:Potter</ref>
 
Erbyn heddiw, mae coctel yn cynnwys mwy nag un math o [[diod wedi distyllu|wirod]] ac un cymsygydd neu fwy megis chwerwon, [[sudd ffrwyth]], [[ffrwyth]], [[iâ]], [[siwgr]], [[mêl]], [[llaeth]], [[hufen]], neu [[Perlysieuyn|berlysiau]].<ref>The Craft of the Cocktail gan Dale DeGroff. 2002. Cyhoeddwr:Potter</ref>
 
Mae [[Mair waedlyd]], sy'n cynnwys [[fodca]] a [[sudd tomato]], yn un o'r coctelau mwyaf adnabyddus.