Marcus Vipsanius Agrippa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
interwici
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Actium
Llinell 2:
Roedd '''Marcus Vipsanius Agrippa''' neu '''Agrippa''' ([[63 C.C.]] - [[12 C.C.]]) yn wleidydd, cadfridog a daearyddwr yn amser yr ymerodwr [[Augustus]].
 
Roedd Agrippa'n gyfaill a mab-yng-nghyfraith i Awgwstws. Gwnaeth enw iddo'i hun fel areithydd ac awdur. Ef oedd pennaeth y llynges pan drechwyd [[Marcus Antonius]] a [[Cleopatra]] ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]] yn 31 C.C., a gwobrwywyd ef gan Augustus.
 
[[Delwedd:MarcusAgrippa_NyCarlsberg01.jpg|200px|bawd|chwith|Cerflun o Agrippa]]Dan oruchwyliaeth Agrippa y gorffenwyd yr arolwg mawr o diriogaeth [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] a gychwynwyd gan [[Iŵl Cesar]] yn [[44 C.C.]]. Gyda chymorth y deunydd a ddaeth i'w law felly gwnaeth Agrippa fap crwn o'r Byd. Tua'r flwyddyn [[7 C.C.]], gorchmynodd Awgwstws gael copi ohono mewn marmor a osodwyd i fyny mewn teml yng nghanol [[Rhufain]].