Culhwch ac Olwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
Yn y chwedl mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr [[Ysbaddaden Bencawr]]. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder Arthur i gael ei gymorth a'i gynghor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys [[Cai]] a [[Bedwyr]], yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgiau (''[[anoethau]]'') anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y ffurf ar y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio [[Mabon fab Modron|Fabon fab Modron]] a hela'r [[Twrch Trwyth]] yn haeddianol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.
 
Ceir nifer fawr iawn o gymeriadau yn y chwedl. Cymeriadau bwrlesg sy'n cael eu rhestru yn unig yw llawer ohonyn nhw. Ymhlith y cymeriadau pwysicaf y mae [[Glewlwyd Gafaelfawr]] ([[porthor llys]] Arthur), [[Custennin Heusor]], [[Gwalchmai (arwr)|Gwalchmai]], [[Menw fab Teirgwaedd]], [[Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd]], [[Y Widdon Orddu]], [[Gwyn ap Nudd]], [[Gwrnach Gawr]] a'r [[Anifeiliaid Hynaf]].
 
==Llyfryddiaeth==