Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwennol y Gofod"

Ychwanegwyd 197 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
ffil
(ffil)
{{Listen
| filename = STS-129 landing video.ogg
| title = Atlantis yn glanio yng Nghanolfan</br> Ofod Kennedy, Tachwedd 2009</br> 8 mun 5 eil
| plain = yes
| style = float:right
}}
Math o long ofod ydy '''gwennol y gofod''' neu '''wennol ofod''' sy'n medru dianc o [[disgyrchiant|ddisgyrchiant]] y Ddaear a dychwelyd yn ôl (bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg ''space shuttle'', gan [[Owain Owain]]<ref>[[http://www.owainowain.net/bathutermau.htm Geiriau a fathwyd yn y Gymraeg]]</ref>). Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr [[Asiantaeth Ofod Ewropeaidd]] (''European Space Agency''), [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Siapan]] wedi cynllunio gwenolau gofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r [[Unol Daleithiau]] a [[Rwsia]].
 
==Gwenoliaid gofod America==
[[Delwedd:Enterprise free flight.jpg|250px|bawd|chwith|Y wennol ofod ''Enterprise''.]]
Penderfynodd y sefydliad Americanaidd [[NASA]] ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, [[Yuri Gagarin]], gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: ''Columbia'', ''Challenger'', ''Discovery'', ''Atlantis'', ac ''Endeavour''. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriad y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.