Beowulf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn Llenyddiaeth Hen Saesneg
Tagiau: Golygiad cod 2017
Erthygl newydd Rhestr 1
Llinell 3:
[[Delwedd:Beowulf.firstpage.jpeg|250px|de|bawd|Tudalen gyntaf llawysgrif ''Beowulf'']]
Cerdd arwrol [[Hen Saesneg]] (iaith yr [[Eingl-Sacsoniaid]]) yw '''''Beowulf''''', sy'n 3182 llinell o ran hyd. Caiff y gerdd ei chyfrif fel y gerdd bwysicaf yn llenyddiaeth Hen Saesneg.
 
==Hanes testunol==
Cedwir testun ''Beowulf'' mewn [[llawysgrif]] sy'n dyddio o tua dechrau'r 11g, ond credir gan mwyafrif o feirniadau i'r gerdd gyrraedd ei ffurf bresennol rhywbryd cyn hynny. Dichon fod hyn yn ddiwedd proses o drosglwyddo ar lafar ond ni ellir gwybod hyn i sicrwydd.
 
Fe'i hystyrir yn un o'r cerddi Hen Saesneg pwysicaf. Cyfansoddwyd y gerdd gan feirdd anhysbys yn [[Dwyrain Anglia|Nwyrain Anglia]], [[Lloegr]] o bosibl, gan gyrraedd ei ffurf bresennol rywbryd rhwng y 7fed a'r 10g OC, ond fe'i lleolir yng nghymdeithas arwrol [[Llychlyn]] fel yr oedd hi cyn i'r Eingl-Saeson groesi'r môr. Y gred gyffredinol yw fod rhai o'r cymeriadau sydd yn y gerdd (e.e. y Brenin Hroðgar a'r Scyldings) yn bobl go-iawn, o gig a gwaed a oedd yn trigo yn y gwledydd Sgandinafaidd yn y 6g.<ref>{{Dyf gwe |url=http://www.carlaz.com/phd/cea_phd_chap4.pdf |teitl=Formation and Resolution of Ideological Contrast in the Early History of Scandinavia (Ph.D. thesis) |awdur=Carl Edlund Anderson |dyddiad=1999 |gwaith= |cyhoeddwr=Prifysgol Caergrawnt |dyddiadcyrchiad=29 Chwefror 2012 |iaith=Saesneg |dyddiadcyrchiad=12/03/2012}}</ref>
 
==Disgrifiad==
Mae'n dechrau trwy ddisgrifio cynhebrwng Scyld Scefing, un o arwyr mawr y Daniaid, cyn fynd ymlaen adrodd hanes yr arwr Beowulf yn ymladd yr anghenfil Grendel gan ei ladd. Mae mam Grendel wedyn yn ymosod arno ac mae Beowulf yn ei lladd hithau. Aiff adre'n arwrol ac yn fuddugoliaethus i Geatland yn [[Sweden]]. Ar ôl hanner can mlynedd, mae'n ymladd draig ac yn ei lladd ond caiff ei glwyfo'n angheuol wrth wneud hynny a chaiff ei gladdu gan ei gyfeillion yng ngolwg y môr.
 
Er mai Beowulf yw prif cymeriad y gerdd, mae hi hefyd yn cynnwys nifer o ffigyrau a straeon eraill. Mae llawer o gymeriadau a llwythi sydd yn y gerdd hefyd i'w canfod mewn llenyddiaeth Sgandinafaidd e.e. Healfdene, Hroðgar, Halga, Hroðulf, Eadgils ac Ohthere), y llwythi Scyldings, Scylfings a'r Wulfings a rhai digwyddiadau megis y Frwydr ar Rew Llyn Vänern.<ref>{{eicon en}} {{Dyf llyfr |olaf= Shippey |cyntaf= T. A. |teitl= "Wicked Queens and Cousin Strategies in Beowulf and Elsewhere, Notes and Bibliography". In the Heroic Age |cyhoeddwr= In the Heroic Age |blwyddyn= 2001}}</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Cafwyd nifer o argraffiadau o'r testun gwreiddiol dros y blynyddoedd a sawl cyfieithiad i Saesneg Diweddar a rhai ieithoedd eraill. Ceir cyfieithiad mydryddol Saesneg hwylus yn y gyfres ''Penguin Classics'':
 
*Michael Alexander (cyf.), ''Beowulf'' (Penguin, 1973; sawl argraffiad arall ers hynny)
 
Golygiad safonol o'r testun yw:
 
*Friedrich Klaeber (gol.), ''Klaeber's Beowulf'' (2008; 4ydd argraffiad)
 
==Ffilm==
Cafodd ei gwneud yn [[Beowulf (ffilm 2007)|ffilm]] yn 2007, gyda brodorion ynys Prydain ([[y Brythoniaid]]) yn siarad Saesneg gydag acen Gymraeg.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
*Slade, Benjamin. ''[http://www.heorot.dk/ Beowulf on Steorarume (Beowulf in Cyberspace)]''.
 
[[Categori:Arwrgerddi]]
[[Categori:Barddoniaeth Hen Saesneg]]