Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bryncir"

Ychwanegwyd 94 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
ffatri
(Tudalen newydd: Mae '''Bryncir''' yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd. Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae ge...)
 
(ffatri)
Gellir gweld nifer o hynafiathau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r [[6ed ganrif]] gydag arysgrif mewn [[Lladin]] ac [[Ogam]]. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin [[Cymru]], ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.
 
Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw [[Golan]].
 
{{Trefi Gwynedd}}
37,236

golygiad