Ogam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Ogam''' neu '''Ogham''' yn sgript a ddefnyddid o'r [[4edd ganrif]] hyd y [[10fed ganrif]], i ysgrifennu [[Gwyddeleg]] yn bennaf.
 
Mae'r arysgrifau OghamOgam "clasurol" i'w cael yn [[Iwerddon]], [[Cymru]], [[Yr Alban]] ac [[Ynys Manaw]], gydag ychydig yn [[Lloegr]], a'r mwyafrif yn dyddio o'r bumed a'r chweched ganrif. Maent wedi eu hysgrifennu mewn [[Hen Wyddeleg]], ond gan mai enwau personau yn unig yw llawer o'r arysgrifau, nid oes modd cael llawer o wybodaeth ieithyddol ohonynt.
 
Credir fod y sgript wedi ei dyfeisio tua diwedd y bedwaredd ganrif neu ddechrau'r bumed, efallai gan Gristionogion cynnar yn Iwerddon. Awgrym arall yw fod y sgript wedi ei dyfeisio gan Wyddelod yn byw yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif, oedd wedi dod i gysylltiad a'r wyddor Ladin. Yn yr Alban mae nifer o arysgrifau Ogham na wyddir beth yw eu hiaith. Yn ôl chwedlau Iwerddon, dyfeisiwyd OghanOgam, a'r iaith Wyddeleg, yn fuan ar ôl cwymp [[Tŵr Babel]].
 
Ffurfir y llythrennau gan linellau, un ai ar ymyl carreg neu ar draws llinell syth wedi ei thorri yn y garreg. Darllenir o'r ochr chwith ar waelod y garreg. Mae'r wyddor yn cynnwys ugain llythyren (''feda''), wedi eu trefnu yn bedair cyfres (''aicmí'').
 
Yng Nghymru mae'r mwyafrif mawr o'r arysgrifau OghamOgam yn y de-orllewin, lle roedd poblogaeth Wyddelig sylweddol yn y cyfnod yma. Maent yn llawer prinnach tu allan i'r ardal yma, ond ceir ambell un yn y gogledd, er enghraifft un gerllaw [[Bryncir]] yng Ngwynedd, sy'n ddwyieithog, OghamOgam a [[Lladin]].