Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 86.143.163.180 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Xqbot.
000peter (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Y Ddeunawfed Ganrif: howel > hywell
Llinell 66:
 
[[Delwedd:Richard_Wilson_003.jpg|200px|bawd|"[[Yr Wyddfa]] o [[Llyn Nantlle|Lyn Nantlle]]", dyfrlliw gan [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]]]]
Dyma'r ganrif pan oedd y [[Diwygiad Methodistaidd]] mewn bri gyda phobl fel [[HowelHywel Harris]], [[William Williams Pantycelyn]] a [[Daniel Rowland]] yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd [[ysgolion cylchynol]] [[Griffith Jones]] yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]] (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] o ryw fath, ond arhosai nifer yn ffyddlon i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys]] yn ogystal.
 
Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn [[Cymry|Gymry]] uniaith [[Gymraeg]] o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach [[cefn gwlad]]. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y [[Gwylmabsant|Gwyliau Mabsant]]. Yn ail hanner y ganrif roedd yr [[anterliwt]] ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain. Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr [[newyddiaduriaeth]] yng Nghymru gydag ymddangosiad y [[cylchgrawn|cylchgronau]] cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r [[Eisteddfod Genedlaethol]] gyda gwaith y [[Gwyneddigion]] yn [[Llundain]] ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth [[Celtiaid|Celtaidd]] ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel [[Dafydd ap Gwilym]] a'r [[Gogynfeirdd]] diolch i waith [[Goronwy Owen]], [[Ieuan Fardd]] a [[Morrisiaid Môn]]. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y [[twristiaeth|twristiaid]] cyntaf - ac ymledodd dylanwad y [[Mudiad Rhamantaidd]] ar lenorion ac artistiaid y wlad, fel yr arlunydd enwog [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]].