Y Diwygiad Methodistaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
000peter (sgwrs | cyfraniadau)
howel > hywell
000peter (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Y '''Diwygiad Methodistaidd''' yw'r term a ddefnyddir am yr adfywiad crefyddol yn y [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|ddeunawfed ganrif yng Nghymru]], a gysylltir yn bennaf a [[Daniel Rowland]], [[Hywel Harris]] a [[William Williams, Pantycelyn]]. Roedd yn adfywiad o fewn [[Eglwys Loegr]] ar y cychwyn, ond yn ddiweddarach, arweiniodd at greu'r Methodistiaid [[Calfin]]aidd, yn awr [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru]], fel enwad ymneilltuol.
 
Er nad oedd ganddo ran uniongyrchol yn y Diwygiad Methodistaidd, ystyrir [[Griffith Jones]], [[Llanddowror]] (1684 - 1761) fel tad ysbrydol y mudiad. Roedd ei ysgolion cylchynol ef wedi dysgu miloedd lawer o'r werin i ddarllen, felly gallent ddarllen [[y Beibl]] trostynt eu hunain. Fel rheol, ystyrir i'r Diwygiad ddechrau gyda throedigaeth [[HowellHywel Harris]] yn ehlwyd [[Talgarth]] yn [[1735]]. Dechreuodd gynnal cyfarfodydd yn ei gatref ym mhentref [[Trefeca]]. Yn fuan wedyn, cafodd [[Daniel Rowland]] droedigaeth, yna yn [[1737]] cafodd William Williams, Pantycelyn, droedigaeth wrth wrando ar Harris yn pregethu ym mynwent [[Talgarth]].
 
Teithiodd Harris a William Williams lawer o amgylch Cymru yn pregethu, ac erbyn [[1750]] roedd dros 400 o [[Seiat|seiadau]] wedi eu ffurfio. Yn [[1762]] bu diwygiad mawr yn [[Llangeitho]] dan arweiniad Daniel Rowland.