Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
000peter (sgwrs | cyfraniadau)
howell > hywell
Llinell 35:
==Ymneilltuaeth a thwf y capeli==
 
Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o’r enw [[HowellHywel Harris]] dröedigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys Talgarth. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau’r Efengyl, aeth Harris i’r priffyrdd a’r caeau i’w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tröedigaeth Harris i’w gweld fel man cychwyn y [[Diwygiad Efengylaidd]] yng Nghymru. Er bod Harris a nifer dda o’r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i’r Eglwys Sefydledig, cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i’r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau Methodistaidd bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi’n eglwysi Annibynnol newydd. Ynghyd ag egni’r Diwygiad Efengylaidd, daeth diwydrwydd a dyfeisgarwch.
Ar droad y 19eg ganrif, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Trodd y werin Gymreig yn werin lafar; galluogwyd hi i fynegi ei meddwl yn glir a huawdl. Ymhen rhai blynyddoedd, daethpwyd i weld arwyddocâd hynny ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth ar gyfer y werin lythrennog hon, ac ymddangosodd llu o gyfnodolion misol, rhai’n enwadol ac eraill yn gydenwadol. Bu hwn hefyd yn gyfnod o genhadu dros y môr. Bu’r Cymry yn arbennig o gefnogol i waith Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd ym 1795, ac y mae cysylltiadau gyda Madagascar, un o feysydd cenhadol cyntaf y Cymry, yn parhau hyd heddiw.