Christopher Bassett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 16:
 
==Marwolaeth==
Yn ystod haf 1793, aeth Bassett i'r [[Crai, Powys|Crai]] yn Sir Frycheiniog, i bregethu. Yng nghanol yr oedfa teimlodd ei nerth yn darfod a phoen enbyd o gwmpas ei ysgyfaint, fel y bu raid iddo roi'r gorau i'r oedfa. Parhaodd ei iechyd i ddirywio. Awgrymodd meddyg iddo ymweld â ffynhonnau [[Caerfaddon]] i geisio gwellhad. Roedd ganddo chwaer yn byw ym [[Bryste|Mryste]], oherwydd bod Bryste yn agos i Gaerfaddon aeth i aros efo hi. Bu farw o'r [[diciâu]] yn nhŷ ei chwaer yn 31 oed. Claddwyd ei weddillion yn eglwys [[Sain Tathan]], ger ei gartref teuluol ar 15 Chwefror 1784.<ref>{{Cite book|title=Cofrestr Bedyddiadau, Priodasau Claddedigaethaua Chladdedigaethau Plwyf Sain Tathan "Duty of 13s for Burial, February 15 1784 Rev Christopher Bassett of Penmarch"|publisher=Gwasanaeth Archifau Morgannwg|publication-date=15 Chwefror 1784}}</ref>
 
Canwyd marwnadau iddo gan [[William Williams, Pantycelyn]] a John Williams,<ref name=":0">{{Cite book|title=Y Tadau Methodistaidd Cyf II|last=Jones|first=John Morgan|publisher=L Evans, Abertawe|year=1895|location=Abertawe|pages=163-167|chapter=Penod XXVIII, Christopher Basset, Thomas Gray, Ac Edward Coslet|url=https://cy.wikisource.org/wiki/Tudalen:Y_tadau_methodistaidd_Cyf_II.djvu/163}}</ref> Sain Tathan. Ysgrifennwyd cofiant byr iddo ar ffurf ''Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin at Ioan ab Gwilim y Prydydd''. Dafydd ab Ioan oedd David Jones Llan-gan ac Ioan ab Gwilym oedd John Williams, Sain Tathan.<ref name=":1" />