Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Islam"

Ychwanegwyd 12 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
B
dolen
B (r2.7.2+) (robot yn newid: tt:Íslam)
B (dolen)
{{Islam}}
 
Un o [[crefydd|grefyddau]] mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw '''Islam'''. Ystyr y gair yw ymostyngiad i ewyllys [[Duw]] ([[Allah]]) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grewyd ganddo. Mae'r gair yn perthyn i'r gair ''salām'' sy'n golygu "tangnefedd" a ddaw o'r [[gwreiddyn Semitaidd|gwreiddyn]] ''[[S-L-M|s-l-m]]''. Mae dilynwr Islam yn [[Mwslim|Fwslim]], sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw." Ceir dwy brif enwad, sef y [[Sunni]] a'r [[Shia]]. Fel [[Cristnogaeth]] ac [[Iddewiaeth]], mae'n un o'r [[crefyddau Abrahamig]].
 
Sefydlwyd y grefydd ym [[Mecca]] gan y Proffwyd [[Muhammad|Mohamed]] (c.[[570]]-[[8 Mehefin]], [[632]]). Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y [[Dwyrain Canol]] a [[Gogledd Affrica]] ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y [[califf]]iaid a reolai ymerodraeth yr [[Umayyad]] yn ymestyn o [[Sbaen]] i Afon [[Indus]] yng ngogledd-orllewin [[India]]. Erbyn heddiw mae tua 20% o boblogaeth y byd yn byw mewn gwledydd [[Mwslim]], o [[Moroco|Foroco]] yn y gorllewin i [[Indonesia]] yn y dwyrain ac o [[Kazakhstan]] yn y gogledd i [[Mali|Fali]] a [[Swdan]] yn y de.
68,869

golygiad