Llywelyn Bren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Gweler hefyd [[Llywelyn ap Gruffudd]] (Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru) a [[Llywelyn (gwahaniaethu)]].''
 
Arglwydd [[Senghennydd]] a [[Meisgyn]] ym [[Morgannwg]] oedd '''Llywelyn ap Gruffudd''' neu '''Llywelyn Bren''' (m. [[1318]]). Roedd yn orwyr i [[Ifor Bach]] (Ifor ap CadiforMeurig neuap Ifor MeurigCadifor). Roedd yn arglwydd cyfrifol a rhyfelwr dewr a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn gormes y goresgynwyr yn ne-ddwyrain [[Cymru]].
 
Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] lleol [[Gilbert de Clare]] ond pan fu farw Gilbert cymerodd [[Pain de Turberville]], arglwydd [[Castell Coety|Coety]], drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i [[Edward II, brenin Lloegr]], ond heb gael boddlonrwydd gan y brenin diystyriol hwnnw. Aeth pethau o ddrwg i waeth a chododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau [[Morgannwg]]. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]] yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu.