Golwg360: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009. Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grant cyhoeddus gan [[Lywodraeth Cymru]...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:58, 12 Rhagfyr 2011
Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.
Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grant cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Cafodd grant ddechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf ar gyfer cael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg Y Byd. ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan Wavehill ConsultingNewyddion am estyniad cytundeb Golwg360 (Cyngor Llyfrau Cymru)Adolygiad Wavehill o ddatblygiad y gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 .
Er bod cryn gydweithio rhwng Cylchgrawn Golwg a Golwg360 ar sawl lefel, rhedir y ddau wasanaeth newyddion fel busnesau ar wahân gyda'u golygyddion eu hunain. Owain Schiavone yw prif-weithredwr Golwg360; a Bethan Lloyd yw'r golygydd presennol, sydd yn cymryd lle Ifan Morgan Jones fu'n olgydd rhwng Mai 2009 a Medi 2011Erthygl BBC Cymru Medi 2011.
Mae prif adrannau y wefan yn cynnwys:
- Newyddion
- Chwaraeon
- Celfyddydau
- Calendr
- Blog
- Bwyd
- Lle Pawb
- Adran Swyddi
Ers i wasanaeth newyddion BBC Cymru roi'r gorau i gyhoeddi newyddion Prydeinig a rhyngwladol‘By lightning beneath the sea:’ adoption of New Media in the Welsh language. (Grahame Davies, 2005), Golwg360 yw'r unig fan gyhoeddwr print lle gellir darllen straeon newyddion dyddiol sydd ddim â ffocws penodol Cymreig.